Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ei Ddatganiad y Gwanwyn heddiw ynghanol cyfnod o ansicrwydd na welwyd ei debyg o'r blaen, wedi i gytundeb Brexit Prif Weinidog y DU gael ei drechu.

Fe gollodd y Canghellor gyfle arall heddiw i wneud buddsoddiadau sylweddol yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a hybu'r economi. Byddai buddsoddiad o'r fath wedi helpu i godi hyder yn y DU a helpu i amddiffyn y wlad rhag rhai o'r ergydion wrth i ni ymadael mewn ffordd gynyddol anhrefnus â'r UE. 

Mae dros £26bn yng nghoffrau'r Trysorlys, £10bn yn fwy nag adeg Cyllideb yr Hydref. Dyma arian a gaiff ei ryddhau gan y Canghellor os bydd cytundeb. Mae'r arian hwn yn gorwedd heb ei gyffwrdd wrth i'n gwasanaethau cyhoeddus barhau i weithio dan bwysau aruthrol naw mlynedd hir o gyni, a thra bod ein busnesau angen cymorth i ffynnu ym marchnadoedd cystadleuol y byd. Ac eithrio’r GIG, mae’r ffigurau ar hyn o bryd yn awgrymu na fydd unrhyw dwf mewn gwariant o ddydd ar wasanaethau cyhoeddus ar ôl 2019-20. Rhaid i'r Canghellor fuddsoddi yn nyfodol y DU nawr.   

Er gwaethaf honiadau ffyddiog y Canghellor am gryfder economi'r Deyrnas Unedig, y gwir yw bod y rhagolygon ar gyfer y tymor canolig yn siomedig o hyd. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi gostwng ei ragolygon ar gyfer twf GDP yn 2919 yn sylweddol, i 1.2%. Mae'r rhagolygon hirdymor - y bydd twf blynyddol GDP y pen yn cyrraedd 1.1% ddechrau'r 2020au - hefyd yn berfformiad tila iawn yn ôl safonau hanesyddol.

Ac eto, dyma'r gorau y gallwn ei obeithio, gan fod y rhagolygon yma wedi'u seilio ar ymadael â'r UE mewn ffordd drefnus - ond mae hyn, fodd bynnag, yn ymddangos yn gynyddol y tu hwnt i afael Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dilyn y digwyddiadau yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr.

Mae hefyd yn syfrdanol bod Banc Lloegr, ar sail set o ragdybiaethau sylfaenol cymharol ffafriol sy'n debyg i rai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn dweud bod un siawns mewn pedwar y byddwn yn wynebu dirwasgiad yn ddiweddarach eleni.

O ganlyniad i Ddatganiad y Gwanwyn, o gymharu tebyg at ei debyg, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag oedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd ein cyllideb refeniw 7% yn is ar gyfer pob unigolyn nag yn 2010-11, sy'n golygu y bydd £350 yn llai i'w wario ar wasanaethau rheng flaen ar gyfer pob unigolyn yng Nghymru.

Gan droi i edrych ar oblygiadau ehangach datganiad y gwanwyn i Gymru, mae gwerth £8m o gyllid wedi'i ddyrannu yn rhan o'r gronfa her Rhwydweithiau Ffibr Llawn ar ôl i ranbarth Gogledd Cymru gyflwyno cais llwyddiannus i’r gronfa honno. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i uwchraddio'r cysylltiadau mewn adeiladau sydd gan y sector cyhoeddus mewn mannau anghysbell, drwy gynnig cysylltiadau ffibr llawn iddynt a helpu i ddarparu cysylltiadau ffibr ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio contract y Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd y byddai'n cynnal adolygiad o'r systemau y gallai'r llywodraeth eu defnyddio i ddenu cyllid o’r sector preifat er mwyn adeiladu prosiectau ynni a thrafnidiaeth newydd yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fod yn rhan o'r broses hon ac mae'n edrych ymlaen at gael gweithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar yr adolygiad hwnnw.

Yn y pen draw, cyllideb 'gwneud dim' oedd hon, lle mae'r addewid am fuddsoddiad yfory yn dibynnu ar sicrhau cytundeb ar Brexit heddiw. Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod y Canghellor wedi cyfeirio at yr angen i’r Llywodraeth newid ei chwrs a gweithio ar draws y pleidiau i sicrhau cytundeb o’r fath, mae’r risg o beidio â sicrhau cytundeb oherwydd anallu’r un Llywodraeth yn fwy nag erioed. Er bod y Canghellor wedi cynnig defnyddio polisi cyllidol ac ariannol i liniaru effeithiau Brexit heb gytundeb, roedd yn cydnabod ar yr un pryd nad oes unrhyw ffordd o atal difrod i'r economi os na fydd cytundeb. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder a sicrwydd er mwyn gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn ganolog i'r trafodaethau.

Roedd yn fuddiol, er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, cael cadarnhad y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn dechrau cyn toriad yr haf ac yn cael ei gwblhau adeg Cyllideb yr Hydref. Ond  roedd yr addewid hwn eto yn ddibynnol ar sicrhau cytundeb ar Brexit.

Ni all Llywodraeth y DU ganiatáu i'w chynlluniau gwariant gael eu parlysu gan Brexit ac ni all barhau i redeg y wlad ar sail "os, ond, ac efallai". Mae'n bryd inni gael y sicrwydd a'r eglurder y mae dirfawr eu hangen ar ein sector cyhoeddus a'n busnesau.