Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, amlinellodd Canghellor y Trysorlys Gynllun Gaeaf Llywodraeth y DU ar gyfer yr Economi yng ngoleuni cynnydd o’r newydd yn yr achosion o’r coronafeirws ac ansicrwydd cynyddol ymhlith busnesau a gweithwyr.

Mae Cynllun y DU ar gyfer Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, a ddaw i ben fis nesaf, wedi bod yn hanfodol er mwyn diogelu swyddi yng Nghymru. Mae wedi cynnig cymorth ar raddfa na welwyd ei thebyg, a dim ond Llywodraeth y DU all ddarparu cymorth o’r fath.

Rydym wedi pwyso’n gyson ar Lywodraeth y DU i sefydlu trefniadau newydd wrth i’r Cynllun Cadw Swyddi ddirwyn i ben. Yn benodol, rydym wedi pwyso am ragor o gymorth i’r sectorau hynny sydd wedi’u taro galetaf, mwy o ymdrech i greu swyddi yn ogystal â’u diogelu, a mwy o fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau. Bydd pob un o’r rhain yn help i’r economi i ddod drwy’r argyfwng yn gyflymach.

Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor heddiw, mae’r amseru yn anffodus am ei fod yn dod ar ôl y dyddiad olaf posibl i gychwyn cyfnodau rhybudd diswyddo i’r rheini sy’n manteisio ar y Cynllun Cadw Swyddi. Dylid cynnig cymorth i weithwyr sy’n cael eu diswyddo nawr ac i’r rheini a fydd yn cael eu diswyddo yn ystod yr wythnosau nesaf, wrth i’r cynlluniau cymhorthdal cyflogau cyfredol ddiflannu.  

Mae angen gwneud mwy i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi newydd ac i gynnig cymhelliant i gyflogwyr i gyflogi gweithwyr newydd. Mae angen canolbwyntio’n fwy ar greu swyddi, sydd mor hanfodol os ydym i gadw’r economi rhag mynd yn ôl i ddirwasgiad yn ystod y misoedd i ddod, ac roedd hynny’n rhywbeth oedd yn amlwg absennol o gyhoeddiad y Canghellor heddiw.

Heb gymryd camau pellach o ran sgiliau, hyfforddiant a chreu swyddi, mae’r DU mewn perygl o fod dan anfantais glir o gymharu â gwledydd yn Ewrop sy’n rhoi sylw i’r elfennau hynny, a bydd gweithwyr sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf ar eu colled yn y tymor hir. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i roi cefnogaeth i bawb i ddod o hyd i waith, mynd i mewn i addysg neu hyfforddiant, neu ddechrau eu busnes eu hunain, gyda chymorth £90m o gyllid, a byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gymryd camau cyfatebol gyda’r pwerau ariannol sydd ar gael iddynt.

Rydym yn siomedig hefyd na wnaeth y Canghellor ymateb i’n ceisiadau niferus am gymorth wedi’i dargedu, gan gynnwys ar gyfer cyflogwyr mawr yng Nghymru sy’n annatod i lwyddiant economi amrywiol y DU, megis dur ac awyrofod. Mae’r sectorau hyn yn effeithio ar fywoliaeth miloedd o bobl, a heddiw mae llawer o swyddi yn dal mewn perygl mawr, pan oedd gan y Canghellor gyfle gwirioneddol i’w diogelu.

Nid yw’n glir pam mae’r Canghellor wedi penderfynu mai’r swyddi hynny lle gellir gweithio o leiaf draean o’u horiau yw’r swyddi ‘hyfyw’. Mae’n debygol y byddai llawer o fusnesau, yn enwedig yn y celfyddydau, a hefyd lle nad oes modd gweithio draean o’r oriau ar hyn o bryd, yn gynaliadwy, serch hynny, yn y tymor hir.

Rydym yn croesawu penderfyniad y Canghellor i ymestyn y cyfnod o ostyngiad ar TAW o fewn y sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth 2021, ymestyn terfynau amser ad-dalu ar gyfer busnesau sydd wedi gohirio talu eu TAW, a rhoi mwy o hyblygrwydd i fusnesau sydd wedi trefnu benthyciadau drwy gymorth y Llywodraeth. Fodd bynnag, ar y cyfan, yn anffodus mae’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn annhebygol o fod yn ddigon i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn ystod y misoedd i ddod. Mae angen gwneud mwy, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau dewrach i sicrhau ein hadferiad economaidd a chefnogi ffyniant busnesau a phobl i’r dyfodol ledled y DU.