Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, Ddatganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU, gan gynnwys rhagolwg newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (yr OBR) ar gyfer economi a chyllid cyhoeddus y DU. Mae hwn yn pennu’r amlen gyllidol ar gyfer Adolygiad Gwariant y DU, sy’n dod i ben ym mis Mehefin.

Roedd y Datganiad yn cydnabod bod y DU yn parhau i wynebu sefyllfa gyllidol heriol, a bod ffactorau rhyngwladol wedi gwaethygu’r sefyllfa honno. Ers Cyllideb yr Hydref, mae’r cefndir economaidd byd-eang wedi dirywio. Nid oes dull rhwydd a chyflym o sicrhau twf economaidd, a bydd yn cymryd amser i weld gwahaniaeth yn sgil y newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith.

Dywedodd y Canghellor fod yr OBR wedi gorfod adolygu ei rhagolygon twf ar gyfer eleni tuag i lawr o ganlyniad i’r heriau sy’n wynebu pob economi. Daeth i’r casgliad na fyddai targedau cyllidol y Canghellor wedi cael eu cyflawni oni bai bod camau wedi’u cymryd yn Natganiad y Gwanwyn, a hynny’n bennaf oherwydd cyfraddau llog uwch a achoswyd gan ddigwyddiadau allanol. Mae’r camau hyn yn parhau ag ymdrechion Llywodraeth y DU i adfer sefydlogrwydd yng nghyllid cyhoeddus y DU. 

Pwysleisiodd Datganiad y Canghellor fod yr OBR, er gwaethaf yr angen i adolygu rhagolygon twf eleni ar i lawr, wedi uwchraddio ei rhagolygon twf ar gyfer y flwyddyn nesaf a phob blwyddyn arall o’r rhagolwg. Golyga hyn y bydd yr economi, ar ddiwedd y cyfnod adrodd, yn fwy na’r rhagolwg a gyhoeddwyd yn yr hydref. Bydd aelwydydd £500 ar eu hennill ar gyfartaledd erbyn diwedd mis Mawrth 2030, a rhagwelir hefyd y bydd chwyddiant wedi gostwng i darged Banc Lloegr o 2% erbyn 2027. Mae cyfraddau llog eisoes wedi’u torri dair gwaith ers yr Etholiad Cyffredinol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £16 miliwn ychwanegol yn 2025-26 o ganlyniad i newidiadau a gyhoeddwyd heddiw, gan adeiladu ar y cynnydd o £1.6 biliwn yn ein cyllid a gadarnhawyd yng Nghyllideb yr Hydref.

Bydd Cymru hefyd yn elwa ar gyhoeddiadau a wnaed gan y Canghellor heddiw, gan gynnwys mewn cysylltiad â chadarnhau’r cynnydd yn y gwariant ar amddiffyn, cyllid i gefnogi trawsnewidiad y sector cyhoeddus a chyllid ychwanegol ar gyfer cymorth cyflogaeth a chanolfannau gwaith. Rydym hefyd yn croesawu’r ymrwymiad parhaus gan y Canghellor i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar draws cyfnod yr Adolygiad Gwariant, uwch ben y cynnydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref.

Byddwn yn parhau â’n trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cyfleoedd i Gymru gyfrannu at dwf economaidd wrth inni agosáu at ddiwedd Adolygiad Gwariant y DU ym mis Mehefin. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd, gan gynnwys er mwyn cyflwyno gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; ein rhaglen ar gyfer diogelwch tomenni glo, a fydd yn creu swyddi, yn uwchsgilio’r gweithlu, yn dod â thir yn ôl i gyflwr y gellir ei ddefnyddio ac yn annog datblygiad technolegau newydd; a hyblygrwydd ychwanegol yn y gyllideb i gefnogi buddsoddiad ym mhob cwr o Gymru.