Jeremy Miles MS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ym Mawrth 2020, comisiynodd Llywodraeth y DU'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo (MAC) i lunio rhestr o alwedigaethau’r DU lle ceir prinder (SOL), a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar alwedigaethau yn y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) Lefelau 3-5 (sgiliau canolig). Bydd hyn, i bob pwrpas, yn pennu pa alwedigaethau fydd yn gymwys ar gyfer gostyngiad o 20% i'r trothwyon cyflog ar gyfer y rhai sy'n dod i'r DU ar ôl i'r system fewnfudo newydd gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2021.
Mae copi o ymateb manwl Llywodraeth Cymru i Alwad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo am dystiolaeth ar gyfer y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder wedi'i atodi isod.
Mae'r ymateb hwn wedi'i seilio ar ddadansoddiad data sy'n ailadrodd methodoleg MAC, ynghyd â thystiolaeth rhanddeiliaid sy'n helpu i flaenoriaethu pa alwedigaethau y byddai'n synhwyrol eu llenwi drwy ymfudo. Rydym yn cynnig y dylai'r rhestr hon fod yn sail i SOL ar gyfer Cymru fel y mae wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo.
Rydym wedi darparu'r ymateb hwn mewn cyd-destun lle’r ydym yn credu nad nawr yw'r adeg briodol i gynnal ymarfer yn ein hanghenion o ran sgiliau yn y dyfodol gan fod effaith pandemig COVID-19 ar y farchnad lafur yn datblygu ac ymhell o fod yn sicr. Mae'r argyfwng hwn hefyd wedi bwrw amheuaeth ar ddoethineb bwrw ymlaen â pholisi mewnfudo sy'n methu â gwerthfawrogi cyfraniad gweithwyr hanfodol sydd wedi cynnal nifer o wasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig, ond na fyddant yn gallu dod i’r DU o dan y system fewnfudo newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid o Gymru i benderfynu pa alwedigaethau y dylid eu cynnwys mewn SOL yng Nghymru. Mae hyn yn seiliedig ar gymhwyso methodoleg MAC ei hun (wedi'i haddasu i adlewyrchu'r data sydd ar gael a meintiau sampl llai), ynghyd â thystiolaeth o brinder gan ein rhanddeiliaid allanol o ystod eang o sectorau ar draws Cymru yn dilyn gweithdy poblogaidd ac adeiladol yn gynharach y mis hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y graddau a danlinellir yn y dadansoddiad yn adlewyrchu pa mor dda y maent yn bodloni'r meini prawf prinder a bennwyd MAC ond mae'r fethodoleg hon hefyd yn gofyn am ategu'r darlun lefel uchel hwn gyda thystiolaeth rhanddeiliaid o ble y byddai'n synhwyrol llenwi'r swyddi gwag hynny o fewnfudo. Dim ond ar ôl cyfuno'r ddwy ffynhonnell hyn o dystiolaeth y mae darlun o ba alwedigaethau y dylid eu hystyried yn flaenoriaethau yn dod i’r amlwg. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnwys gwaith ar lefel 3 NQF neu’n uwch yn unig fel 'medrus', mae ein hystyriaeth hefyd yn cynnwys bylchau sgiliau islaw'r trothwy hwn.
Yn yr adroddiad rydym yn tanlinellu nifer o alwedigaethau allweddol a ddylai gael eu hychwanegu at y SOL yn ein barn ni. Yn benodol, hoffem dynnu sylw at anghenion sgiliau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gweithgynhyrchu, digidol, masnach a diwydiannau creadigol, y diwydiant bwyd a diod, gan gynnwys milfeddygon, gwasanaethau proffesiynol a busnes, ac adeiladu.
Rydym yn gobeithio y bydd ymateb Llywodraeth Cymru, wedi'i ategu gan ein tystiolaeth, ein dadansoddiad ac adborth gan randdeiliaid, yn cael ei ystyried yn ofalus gan MAC ac y caiff ei ddefnyddio yn sail i Lywodraeth y DU i roi i Gymru ei restr ei hun o alwedigaethau lle ceir prinder, gan gydnabod anghenion penodol y farchnad lafur yng Nghymru, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol.