Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Yn 2022, gofynnodd Llywodraeth Cymru i grŵp o 18 o arbenigwyr, o amrywiol sefydliadau, i gynghori Is-bwyllgor Costau Byw y Cabinet ynghylch effaith yr argyfwng, ac i ddyfeisio cyfres o gamau tymor byr, tymor canolig a thymor hir, y gellid eu mabwysiadu i liniaru'r effeithiau hynny.
Rwy'n ddiolchgar tu hwnt am waith y grŵp arbenigol. Cyhoeddais yr adroddiad cryno a'r argymhellion ar 26 Medi 2023. Heddiw, a minnau'n cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru, rwyf am amlinellu sut rydym am fynd ati i weithredu'r argymhellion sydd wedi dod i law.
Rwy'n falch iawn bod y Strategaeth Tlodi Plant yn mynd i'r afael â nifer o argymhellion y grŵp arbenigol, yn enwedig cynyddu incwm pobl a gwneud y mwyaf ohono, sydd i'w roi ar waith ar unwaith, a'r argymhelliad mwy hirdymor i alinio ein gwaith ar gostau byw â mentrau a chamau ehangach i frwydro yn erbyn tlodi.
Rydym wedi cymryd camau yn ddi-oed mewn ymateb i lawer o'r argymhellion lle nododd y grŵp arbenigol y byddai gweithredu'n gyflym o fudd i bobl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw hwn sy'n parhau. Rydym:
- Yn cyhoeddi Siarter Budd-daliadau Cymru, a gymeradwywyd gan CLlLC a phob un o’r 22 Awdurdod Lleol.
- Yn adolygu'r canllawiau presennol ar dariffau cymdeithasol mewn perthynas â dŵr, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer ynni a gwneud mwy i ddiogelu’r rhai sydd ar fesuryddion rhagdalu.
- Yn parhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio - mae dros 15m o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi'u gweini ers lansio'r cynllun ym mis Medi 2022.
- Wedi ymrwymo i ddatblygu Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf. Yn ystod gwyliau haf ysgolion yn 2023, cymerodd 265 o ysgolion ran mewn 175 o gynlluniau o dan Raglen Gwella Gwyliau'r Haf, gan ddarparu 11,100 o leoedd i blant bob diwrnod yr oedd y rhaglen yn weithredol.
- Yn ymestyn cynllun Nyth wrth inni gaffael y cynllun Cartrefi Clyd newydd am Ebrill 2024.
- Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol i'r 50fed ganradd.
- Yn diogelu cyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn wyneb hinsawdd ariannol eithriadol o anodd.
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, i liniaru'r effeithiau gwaethaf, ond hefyd drwy gymryd camau i atal pobl rhag profi tlodi yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys ein hymgyrchoedd Yma i helpu - "Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi" a'n gwasanaethau cynghori o dan y Gronfa Gynghori Sengl, ein talebau rhagdalu tanwydd, ein cefnogaeth i gymorth bwyd brys a'n Cronfa Cymorth Dewisol, sy'n darparu cymorth brys i'r rhai mewn argyfwng.
Ond mae'r hinsawdd ariannol eithriadol o anodd yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau hynod o lym a phoenus er mwyn gallu targedu ein gwariant i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai mwyaf anghenus.
Mae hyn yn golygu bod nifer o argymhellion, pob un yn cynnwys ymrwymiadau ariannu sylweddol, na fyddwn yn gallu eu gweithredu ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau difrifol ar ein cyllideb yn 2023-24 a 2024-25, ac a fydd ond yn cael eu gwireddu os daw cyllid ychwanegol sylweddol i law.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i archwilio'r cyfleoedd hyn os bydd y sefyllfa gyllidol yn newid.