Eluned Morgan AS, Brif Weinidog Cymru
Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru yn rhoi cyngor pwysig i Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn gefnogi plant i fanteisio ar eu hawliau. Rwy'n falch o gael nodi ein hymateb i'r argymhellion a wnaed yn Adroddiad y Comisiynydd ar gyfer 2023-24.
Amgylchedd Teuluol a Gofal Amgen
Nod y Siarter Rhianta Corfforaethol yw cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhieni corfforaethol. Gyda'n Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol, sy'n cynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, rydym wrthi'n cynllunio i godi proffil y Siarter a chynyddu'r rhai sy'n ymrwymo iddo.
Mae'r sail wirfoddol ar gyfer ymrwymo wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo a chryfhau rhianta corfforaethol ymhlith y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae wedi ein galluogi i gael trafodaethau gonest a gweithio gyda sefydliadau ar yr hyn y gallant ei gyflawni. Rydym yn disgwyl i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol ymrwymo fel gofyniad craidd.
Rydym yn cryfhau'r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd drwy bennod bwrpasol ar Rianta Corfforaethol yng Nghod Ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y bennod yn amlinellu'n glir eu dyletswyddau fel rhieni corfforaethol, ac yn cefnogi dull gweithredu strategol cryfach.
Amddiffyn rhag Ecsbloetio a Thrais
Yn dilyn ymgynghoriad, cyhoeddwyd fersiwn derfynol Canllawiau Statudol Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) ar 1 Hydref, a hyfforddiant ac adnoddau cysylltiedig i ymarferwyr. Rydym o'r farn bod hyn wedi mynd i'r afael ag argymhellion y Comisiynydd. Yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu'r dull newydd arloesol hwn, bydd Canolfan Cydlynu SUSR yn parhau i weithio gyda phob rhanddeiliad perthnasol er mwyn gwneud gwelliannau pellach i'r broses wrth i'r angen godi.
Addysg, Dinasyddiaeth a Gweithgareddau Diwylliannol
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gyda'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (y Cod ADY) a'r Ddeddf ADY, ynghyd â'r rheoliadau, yn darparu'r system statudol yng Nghymru.
Mae ein gwaith i ddiwygio'r system ADY wedi bod yn uchelgeisiol ac, yn ein hymrwymiad i'w gwella, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i adolygu'r fframwaith deddfwriaethol er mwyn sicrhau y gellir gwneud i'r system ADY weithio yn y ffordd orau i bawb ac er mwyn sicrhau cysondeb prosesau. Ochr yn ochr â hyn, rydym wrthi'n adolygu ac yn cryfhau'r wybodaeth am y system ADY ar ein gwefan i wneud yn siŵr ei bod yn effeithiol i'r rhai sy'n gweithredu'r Cod ADY.
Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei buddsoddiad â thros £107m o gyllid refeniw a £60m o gyllid cyfalaf drwy grantiau i awdurdodau lleol. Mae gwariant awdurdodau lleol ar ddarpariaeth ADY/AAA wedi cynyddu 55%, neu dros £200m, ers 2018, a gwelwyd cynnydd o £42.3m y llynedd yn unig.
Bwyd mewn Ysgolion
Ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, cam sylweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant a'u cefnogi o ran eu hawl i iechyd da a mynediad at addysg. Fel llywodraeth, rydym yn defnyddio popeth sydd ar gael inni i roi'r gefnogaeth i deuluoedd sydd ei hangen fwyaf.
Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa o'r pwerau sydd ar gael iddynt yn ôl eu disgresiwn, o dan Ddeddf Addysg 1996, i ddarparu prydau am ddim i blant a phobl ifanc nad oes gan eu rhieni a/neu eu gofalwyr hawl i gyllid cyhoeddus. Cyn bo hir, ymgynghorir ag awdurdodau lleol ar newidiadau arfaethedig i'r canllawiau ynghylch y rhai sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, a'r defnydd ohonynt. Yn ogystal, mae ein Polisi Cenedl Noddfa yn nodi ein hymrwymiad i wella sefyllfa pawb sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys y rhai sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus.
Rydym yn cytuno bod clywed barn a phrofiadau ystod o blant a phobl ifanc, gan gynnwys barn plant niwrowahanol, yn hanfodol wrth adolygu Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a'r Canllawiau Statudol. Bydd yr ymgynghoriad adolygu, a gaiff ei lansio ym mis Ebrill 2025, yn cynnwys ymgysylltu â grŵp amrywiol o blant a phobl ifanc.
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid – mynediad at wasanaethau
Yn ein hymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, fe wnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i edrych ar y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i blant a phobl ifanc sydd ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn archwilio sut y gallai gwasanaeth gwarcheidiaeth weithio, yr adnoddau sydd eu hangen i'w weithredu, a'r elfennau croestoriadol â chymorth statudol arall megis cynghorwyr personol a darpariaeth eirioli.
Rydym hefyd yn parhau â'n hymrwymiad i ddatblygu ymhellach ein Tocyn Croeso i deithio am ddim ar fysiau. Ein bwriad yw datblygu cynllun cynaliadwy sy'n darparu teithiau am ddim o fewn terfyn amser i geiswyr lloches sydd wedi'u gosod yng Nghymru, a byddem am sicrhau bod plant a phobl ifanc hefyd yn gallu manteisio ar y cynllun.
Hiliaeth a Chydlyniant Cymunedol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys amrywiol gamau i fynd i'r afael ag achosion casineb hiliol a chrefyddol, yn ogystal â darparu cefnogaeth ac eiriolaeth hawdd cael gafael arni, yn rhad ac am ddim, i'r rhai sy'n profi casineb. Un thema allweddol sy'n dod i'r amlwg wrth inni adnewyddu'r Cynllun yw'r angen i ymgysylltu'n well â phobl ifanc, gan sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a'u cynrychioli wrth lunio polisïau'r dyfodol. Rydym wedi cynnwys nodau a chamau gweithredu penodol sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Cododd adroddiad y Comisiynydd ar Hiliaeth mewn Ysgolion Uwchradd rai materion pwysig a heriol. Nid oes lle i hiliaeth yn ein hysgolion, ac mae'n destun pryder difrifol clywed bod cymaint o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn dal i brofi hiliaeth yn eu bywydau. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys ysgolion a dysgwyr, i greu fformat adrodd cyson ar gyfer digwyddiadau ac aflonyddu hiliol mewn ysgolion a cholegau. Gwneir hyn drwy gasglu data cryfach ar sut yr ymdriniwyd â digwyddiadau, camau gweithredu a gymerwyd, ac a gafwyd datrysiad boddhaol ar gyfer y dioddefwr.
Safon byw ddigonol
Sipsiwn, Roma a Theithwyr – Cydraddoldeb/Addysg
O dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, rydym yn sefydlu Grŵp Sipsiwn, Roma a Theithwyr gydag aelodau o'r gymuned ac awdurdodau lleol a fydd yn weithredol yn y flwyddyn newydd. Bydd y grŵp yn rhoi cyfle i aelodau'r gymuned rannu eu profiadau bywyd a llywio penderfyniadau polisi sy'n effeithio arnynt. Yn 2025-26, byddwn hefyd yn caffael sefydliad trydydd sector i ymgysylltu â rhwydwaith o blant a phobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Drwy'r Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i archwilio a deall yn well yr heriau sy'n wynebu pob person ifanc wrth fynychu'r ysgol. Rydym yn gwybod y gall y rhesymau dros beidio â mynychu fod yn gymhleth ac amrywiol.
Ymhlith rhai carfanau o ddysgwyr ifanc, yn enwedig y rhai sy'n nodi eu bod yn Sipsiwn, Roma neu Deithiwr, mae yna rwystrau penodol sy'n eu cadw rhag mynychu ac mae angen archwilio'r rhain ymhellach. Rydym wrthi'n datblygu cynigion i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion yn ehangach, ar sail trafodaethau'r Tasglu Presenoldeb, gan ganolbwyntio ar rôl swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gweithwyr ieuenctid, a helpu i rannu arferion da ar draws sefydliadau addysgol.
Iechyd meddwl
Rydym yn cydnabod y gall fod gan blant a phobl ifanc anghenion penodol, ac rydym wedi ymrwymo i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl ar eu cyfer. Fodd bynnag, rydym o'r farn mai'r ffordd orau o gyflawni'r gwelliannau hyn yw drwy ymgorffori'r ddarpariaeth mewn cynllun cyflawni sy'n ystyried iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cymorth yn ymateb i union anghenion yr unigolyn, yn hytrach na'i fod yn cael ei benderfynu ar sail oedran. Bydd y strategaeth yn parhau i ganolbwyntio ar bobl ifanc drwy flaenoriaethu'r blynyddoedd cynnar, gweithredu ein fframwaith NYTH a chyflawni ein gwaith mewn ysgolion.
Rhaglen Plant Iach Cymru
Rydym yn cydnabod yr heriau o ran casglu data a monitro Rhaglen Plant Iach Cymru ar lefel poblogaeth oherwydd y diffyg cofnodi digidol ar ddata. Yn unol â'r argymhelliad, rydym yn archwilio'r opsiynau ar gyfer gwerthuso ac adolygu'r rhaglen, gan gynnwys ystyried dull digidol i wella ansawdd y data a sicrhau adroddiadau amserol ystyrlon.
Fepio
Yn ogystal â chreu cenhedlaeth ddi-fwg, rydym am leihau i ba raddau y mae fêps ar gael ynghyd â'u hapêl. Rydym hefyd am atal yr arfer o dargedu plant a phobl ifanc yng Nghymru a'r defnydd o fêps a wneir ganddynt. Rydym yn falch, felly, fod y Bil Tybaco a Fêps wedi'i osod yn Senedd San Steffan ar 5 Tachwedd, ac os caiff ei basio, bydd yn darparu pwerau cynhwysfawr i fynd i'r afael â hysbysebu fêps, cyflasynnau a phecynnu, yn ogystal â phwerau i gyflwyno trwyddedu ar gyfer manwerthwyr tybaco, fêps a chynhyrchion nicotin eraill. Nod y mesur iechyd cyhoeddus hwn sy'n torri tir newydd ar lefel fyd-eang, yn ogystal â'n gwaharddiad arfaethedig ar fêps untro o 1 Mehefin 2025, yw diogelu plant a gwella iechyd y genedl.
Er mwyn cefnogi ysgolion o ran yr heriau sy'n ymwneud â defnyddio fêps, rydym wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu canllawiau ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd ar fepio. Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd gwybodaeth a chanllawiau ar fepio ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd yng Nghymru, ac mae'n cynnwys gwybodaeth i ysgolion, ar sail tystiolaeth, ynghylch sut y gallant ymateb i fepio a mynd i'r afael â'r mater. Mae'r adnoddau hyn wedi cael eu hyrwyddo'n eang ymhlith ysgolion, ac rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ddatblygu adnoddau ar y pwnc pwysig hwn.
Gall unrhyw unigolyn sy'n 12 oed neu'n hŷn sy'n smygu ac yn fepio gael yr un lefel o gymorth ag oedolion, gan gynnwys y casgliad llawn o gymorth ymddygiad a Therapi Disodli Nicotin, wedi'i deilwra i'w anghenion penodol. Ar hyn o bryd, caiff y rheini sydd dros 12 oed sy'n fepio yn unig fynd i un sesiwn cymorth ymddygiad drwy'r gwasanaeth cenedlaethol sy'n helpu pobl i roi'r gorau i smygu, Helpa Fi i Stopio, heb Therapi Disodli Nicotin.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, hygyrch ac integredig, yn enwedig i bobl ifanc. Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a dibynadwy yn creu cyfleoedd cymdeithasol, addysgol ac economaidd yn ogystal â budd amgylcheddol. Rydym eisoes wedi ymgymryd â gwaith cynllunio cynhwysfawr ynghylch opsiynau i ddarparu prisiau teithio tecach yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiad manwl o wahanol gynlluniau prisiau teithio ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym bellach yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y diwygio mwyaf uchelgeisiol ar wasanaethau bysiau ledled y DU. Byddwn yn gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd Plant i ddeall y cymhellion a'r rhwystrau er mwyn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.