Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rwy’n croesawu adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2021-22, sy’n cynnwys 16 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Heddiw rwy’n cyhoeddi ein hymateb i bob un o’r argymhellion. Rwy’n falch y gallwn dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor bob un o 16 o argymhellion y Comisiynydd.
Mae’r adroddiad blynyddol yn adlewyrchu blwyddyn olaf tymor yr Athro Sally Holland yn Gomisiynydd Plant Cymru. Hoffwn ddiolch i Sally Holland am yr holl waith a wnaed ganddi i blant a phobl ifanc yn ystod ei thymor yn Gomisiynydd. Hoffwn hefyd groesawu Comisiynydd Plant newydd Cymru, Rocio Cifuentes. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth â hi dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r ymateb hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i hawliau plant yng Nghymru. Rydym yn falch o’n hanes o hyrwyddo hawliau plant ac o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu gwireddu ei botensial.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiynydd Plant Cymru 2021-22
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22