Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu adroddiad blynyddol 2020-21 gan Gomisiynydd Plant Cymru, sy'n cynnwys 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Rwy’n falch ein bod, fel Llywodraeth, yn gallu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor bob un ond un o argymhellion y Comisiynydd Plant. Heddiw, gyda'r Prif Weinidog, rwy’n cyhoeddi ein hymateb cynhwysfawr i bob un o'r argymhellion hyn ynghyd â gwybodaeth am y camau yr ydym eisoes wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd.

Mae'r Comisiynydd wedi galw am weithredu ar frys i wella'r gefnogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl. Gwyddom hefyd fod y pandemig yn parhau i gael effaith ddofn, yn enwedig ar blant a phobl ifanc, a dyna pam mae rhoi eu hawliau ar waith mor hanfodol bwysig. Mae gwella gofal mewn argyfwng a chymorth arbenigol i'r rhai sydd ei angen yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ochr yn ochr â mabwysiadu dull ataliol, atgyfnerthu cymorth cynnar, cymorth i ysgolion a darparu adnoddau iechyd meddwl yn ddigidol.

Rwy’n sylweddoli, wrth i'r Athro Holland nesáu at ddiwedd ei thymor, mai hwn fydd ei hadroddiad blynyddol olaf fel Comisiynydd Plant Cymru. Hoffwn ddiolch i'r Athro Holland am y gwaith diflino y mae wedi'i wneud ar ran plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r Comisiynydd Plant a'i swyddfa wedi chwarae rhan werthfawr wrth roi llais i blant a phobl ifanc ac eirioli dros eu hawliau. Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y rôl y mae wedi'i chwarae wrth sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn ystod y pandemig.

Mae ein hymateb i adroddiad y Comisiynydd Plant yn dangos ein hymrwymiad i hawliau plant yng Nghymru.

Hefyd, fis nesaf, bydd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi'r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig, sy'n nodi trefniadau Gweinidogion Cymru ar gyfer rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 terfynol

Comisiynydd Plant Cymru Cyfrifon 2020-21 (childcomwales.org.uk)

Adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020 i 2021: Ymateb Llywodraeth Cymru