Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ar 4 Tachwedd 2015, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Hadroddiad Blynyddol sy'n arolwg o'r gwaith a wnaed gan ei swyddfa rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015. Mae'n cyfeirio at waith allweddol sydd i'w wneud yn y flwyddyn i ddod ac yn nodi sawl maes lle mae'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ynghylch materion allweddol sy'n cael effaith ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Gwnaethom drafod yr Adroddiad hwn yn y cyfarfod llawn ar 17 Tachwedd, pan ddywedais wrth yr Aelodau fy mod yn bwriadu ymateb yn llawn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r Comisiynydd wedi codi materion sy'n ymwneud â chyfrifoldebau nifer o weinidogion. Maen nhw i gyd wedi cyfrannu at yr ymateb terfynol hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw.
Rwy'n falch o'r cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud o ran y mwyafrif llethol o'r materion a grybwyllwyd. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais ein Rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy'n nodi'r gwaith rydym wedi'i wneud yn y Rhaglen Lywodraethu i gryfhau hawliau plant ac i wneud Cymru'n lle gwych i fyw iddyn nhw. Mae rhagor i'w wneud bob amser. Fodd bynnag, nid yw ein hymrwymiad i blant a'u hawliau wedi simsanu erioed.
Rwy'n diolch i'r Comisiynydd am ei hadroddiad. Rwy'n hyderus y bydd ein hymateb, sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen isod, yn rhoi sicrwydd iddi o'n hymrwymiad i'n dinasyddion iau.