Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn y Cyfarfod Llawn ar Ddydd Mawrth 20 Tachwedd, rhoddais wybod i Aelodau am fy mwriad i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2011-12.
Mae’r Comisiynydd Plant yn sefydliad hawliau plant annibynnol ac yn gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru ac i eraill fel bo angen ar farn plant a phobl ifanc a'r materion allweddol sy'n effeithio arnynt. Mae'r Comisiynydd yn herio Gweinidogion ac asiantaethau eraill yng Nghymru i gymeryd barn plant a phobl ifanc, eu pryderon a’u hanghenion o ddifri. Mae'r materion y mae'n codi yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd polisi a gwasanaeth ac yn cynnwys materion sy'n croesi portffolios nifer o Weinidogion.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ym mis Hydref ac yn unol â'r protocolau y cytunwyd ar gyfer adroddiadau blynyddol gan y Comisiynydd Plant, mae ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn ofynnol cyn diwedd mis Mawrth. Fodd bynnag, yn ystod y ddadl Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2011, mi ymrwymais i symleiddio'r broses adrodd yn ôl, ac rwy'n falch i ddarparu'r ymateb Llywodraeth Cymru yn llawn ar 30 Tachwedd 2012.
Ochr yn ochr â'n hymateb rydym hefyd yn cyhoeddi cyllideb amcangyfrif y Comisiynydd. Mae Paragraff 6 (2) o Atodlen 2 o’r Deddf Safonau Gofal 2000 yn datgan bod rhaid i'r Comisiynydd baratoi a chyflwyno i Lywodraeth Cymru amcangyfrif o incwm a threuliau, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod yr amcangyfrif gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r amcangyfrif wedi ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno heddiw.
Rwyf yn diolch i'r Comisiynydd am ei adroddiad. Mae ein hymateb yn mynd i'r afael â'r materion allweddol a godwyd ac yn cynnwys datganiadau ar bolisi presennol ac arfaethedig. Mae copi o ymateb y Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiynydd a chyllideb amcangyfrif y Comisiynydd ynghlwm a’r Datganiad hwn.