Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn i roi gwybod i aelodau am lansiad diweddar Mwy na Geiriau… y Fframwaith Strategol i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Fel cadeirydd Tasglu’r Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwy’n ymwybodol fod llawer o waith da wedi cael ei wneud i gryfhau gwasanaethau iaith Gymraeg yn y sector. Rwyf hefyd yn gwybod o brofiad am ymrwymiad y staff sy’n gweithio yn y ddau wasanaeth.
Fodd bynnag mae angen gwneud mwy er mwyn ymateb i anghenion iaith defnyddwyr fel rhan allweddol o gynllunio a darparu gofal.
Mae cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn ymwneud â gwella safon gofal ar gyfer y cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n bwysig adnabod y cysyniad o angen iaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae iaith yn elfen bwysig iawn o’r gofal maent yn ei dderbyn e.e rhai pobl sydd â dementia, neu sydd wedi cael strôc, a phlant o dan bump oed.
Mae nifer sylweddol o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn fregus, ac mae gosod y cyfrifoldeb arnynt hwy i ofyn am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn medru cyfrannu at eu gofid. Mae’r cyfrifoldeb ar y GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwasanaeth sy’n addas, sy’n cynnwys bodloni anghenion ieithyddol y defnyddwyr. Dim ond trwy wneud hyn y mae modd darparu gwasanaeth sydd yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydym yn cyfeirio at hyn yn y fframwaith strategol fel y “Cynnig Rhagweithiol”.
Tra’n datblygu’r fframwaith teimlais ei bod yn galonogol dros ben fod y trafodaethau a gafwyd gyda’r gwasanaethau iechyd a gofal wedi bod yn gadarnhaol. Cafwyd hefyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith yn gynnar yn y flwyddyn. Derbyniwyd cant a hanner o ymatebion ac rwy’n falch iawn i fedru dweud fod y mwyafrif o’r rheiny yn bositif iawn. Rydym hefyd wedi cynhyrchu fersiwn hawdd i’w darllen o’r strategaeth a thaflen i blant.
Tra bydd rôl bwysig gan y swyddogion iaith Gymraeg i’w chwarae o ran darparu cyngor i weithredu’r strategaeth, mae’n glir i mi fod yna gyfrifoldeb hefyd ar bob uwch swyddog i’w gweithredu – boed yn gyfrifol am gynllunio, comisiynu neu adnoddau dynol. Mae arweinyddiaeth gref a pherchnogaeth o wasanaethau iaith Gymraeg yn hollbwysig- mae’n rheidrwydd ar bawb i gymryd y cyfrifoldeb i brif-ffrydio’r gwaith yma yn eu cyfrifoldebau dydd i ddydd.
Rwy’n benderfynol y bydd y strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fel rhan o agenda Llywodraeth Cymru o ddarparu’r gofal
iechyd gorau posib. Bydd y cynlluniau gweithredu sy’n dechrau ym mis Ebrill 2013 yn cefnogi’r strategaeth ac yn amlinellu’r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu ein gweledigaeth. Bydd gwneud cynnydd yn y flwyddyn gyntaf yn bwysig iawn er mwyn sicrhau fod y seiliau yn eu lle ar gyfer y dyfodol. Y blaenoriaethau cyntaf fydd cryfhau arweiniad, mapio’r gweithlu a chodi ymwybyddiaeth o’r “cynnig Rhagweithiol”.
Bydd yna system fonitro yn ei lle o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn cynnwys grŵp gweithredu fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd y grŵp yn adrodd yn ôl i mi a’r Tasglu.