Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Tachwedd, fe drafodwyd Adroddiad Blynyddol 2013-14 Comisiynydd Plant Cymru. Fe hysbysais yr aelodau fy mod yn bwriadu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r ymateb hwn wedi’i gyhoeddi heddiw ac mae wedi’i atodi isod.
Mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw at faterion sy’n perthyn i bortffolio sawl Gweinidog ac mae nhw i gyd wedi cyfrannu at yr ymateb terfynol hwn. Rydym wedi ymateb yn uniongyrchol i’r prif bwyntiau yr oedd y Comisiynydd yn cyfeirio atynt ac rwy’n hapus â’r ffaith bod llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mwyafrif o’i sylwadau.
Ni ddylai unrhyw amheuaeth fod ynghylch ymrwymiad y Llywodraeth hon i blant a phobl ifanc. Rydym am i Gymru fod yn lle sy’n gwneud Hawliau’r Plentyn yn realiti i bob plentyn. Dyma pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’n rhaid i blant gael y canlynol: diogelwch, mynediad at addysg dda, cartrefi da, lleoedd i chwarae ynddynt, parch, llais ac i beidio â bod o dan anfantais oherwydd tlodi neu’r ardal y maen nhw’n byw ynddi.
Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiynydd am ei adroddiad ac rwy’n siŵr y bydd ein hymateb ni a’r gwaith yr ydym i gyd wedi’i wneud yn ei sicrhau bod y Llywodraeth hon yn ystyried ei adroddiad yn ddogfen bwysig iawn a’n bod yn parhau i ymrwymo i roi’r CCUHP ar waith.
Yn ogystal â’n hymateb, rydym yn cyhoeddi amcangyfrif o gyllideb y Comisiynydd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Safonau Gofal (2000). Fe gyflwynwyd yr amcangyfrif gerbron y Swyddfa Gyflwyno heddiw. Mae’r amcangyfrif hefyd wedi’i atodi: