Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi ein hymateb i Adolygiad Comisiynydd Plant Cymru o sut mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Mae’r Adolygiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ac mae ein hymateb yn darparu gwybodaeth am y camau gweithredu yr ydym eisoes wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd. Rwy’n falch y gallwn dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor y rhan fwyaf o’r argymhellion.

Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod angen diwygio’r polisi a’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref. Rwy’n credu bod y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Er na allwn ymrwymo i Lywodraeth yn y dyfodol, bwriad y llywodraeth hon fyddai gweithredu'r diwygiadau mewn perthynas ag EHE a nodwyd gennym i'w cyflawni cyn dechrau'r pandemig.

Ein dyhead yw gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, sy’n cryfhau mesurau diogelu mewn lleoliadau ysgolion annibynnol. Fodd bynnag, mater i’r Llywodraeth nesaf fydd penderfynu sut mae bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth a’r polisi penodol hwnnw. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg addas, a bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ffynnu a gwireddu ei botensial.