Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers dechrau pandemig COVID-19 rydym wedi gwneud pob ymdrech, ac wedi parhau i wneud pob ymdrech i gefnogi unigolion, busnesau a’n cymunedau, wrth inni ystyried nid yn unig ein hymateb brys, ond ein hadferiad economaidd hefyd.  

Ers dechrau’r pandemig rydym wedi rhoi cymorth gwerth dros £2.5bn ar gyfer ein busnesau, mewn pecyn wedi’i gynllunio i adeiladu ar y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys grantiau gwerth dros £1.75bn wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Drwy’r cymorth a roddwyd rydym wedi llwyddo i ddiogelu cannoedd o filoedd o swyddi yn yr adeg hynod anodd hon.

Gan adeiladu ar y rhyddhad ardrethi a roddwyd yn 2020/21 rydym hefyd wedi neilltuo £380 miliwn i roi rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden am yr holl flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer tua 70,000 o fusnesau eleni.

Yn ystod y Cwestiynau Llafar ar 6 Mehefin dywedais y byddwn yn rhoi gwybodaeth am sut a ble y byddai dadansoddiad o’r cymorth a roddwyd i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 yn cael ei gyhoeddi. Mae tri chyfnod cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cael eu cyhoeddi isod, a bydd manylion y ddwy Gronfa Benodol i Sectorau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, wedi’u dilyn gan fanylion y pecyn cyfredol yn yr haf.

Cydnabu Llywodraeth Cymru yr angen am rownd arall o’r Gronfa Cadernid Economaidd, wedi’i thargedu at fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 yn parhau i effeithio arnynt.  

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu grantiau brys a grantiau pontio o hyd at  £25k ar gyfer busnesau cymwys i’w helpu i dalu eu costau gweithredu rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021.

Y cymorth yw’r cam cyntaf o becyn £200 miliwn i helpu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi’n raddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi llwyddo i ailgysylltu a mwynhau rhagor o agweddau ar fywyd fel yr oeddem cyn COVID-19 mewn modd diogel. Mae’r cynnydd hwn yn newyddion da ar gyfer yr economi.  

Fodd bynnag, mae’r amrywiolyn delta wedi golygu bod rhaid inni symud tuag at Lefel Rhybudd Un mewn modd graddol. Er nad oes amheuaeth mai dyma’r penderfyniad cywir ar gyfer Cymru, rydym yn cydnabod yr affaith y bydd yn cael ar nifer sylweddol o’n busnesau, yn benodol lleoliadau priodasau ac atyniadau dan do.

Rwy’n gallu cadarnhau ein bod yn rhoi rhagor y gymorth ar waith ar gyfer busnesau a fydd ar eu colled o ganlyniad i’n dull graddol o symud i Lefel Rhybudd Un. Bydd gan fusnesau cymwys fel atyniadau dan do a lleoliadau priodasau sydd â’r capasiti i gynnal digwyddiadau ar gyfer 30 o bobl neu fwy, neu sydd wedi parhau i fod ar gau oherwydd y cyfyngiadau, ac felly’n dioddef effeithiau uniongyrchol o ganlyniad i’r dull graddol hwn, yr hawl i gael taliad ychwanegol o rhwng £875 a £5000 yn dibynnu ar faint eu busnes a’u hamgylchiadau. Rydym yn disgwyl y bydd y busnesau hyn eisoes wedi gwneud cais am ein rownd ddiweddaraf o gyllid brys, ac rydym bellach wedi estyn y dyddiad cau i’r dydd Mercher hwn i wneud yn siŵr y bydd gan bob busnes cymwys lawer o amser i gyflwyno ei gais. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Busnes Cymru.   

Mae ein cymorth COVID, wrth gwrs, yn ychwanegol at ein cymorth a chyngor craidd a ddarperir gan Fusnes Cymru, a’r cyllid a ddarperir ar ffurf benthyciadau gan Fanc Datblygu Cymru sy’n parhau i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid.

https://businesswales.gov.wales/cy

Bydd y Prif Weinidog yn rhoi diweddariad mewn perthynas â’r posibilrwydd o symud i Lefel Rhybudd Un yn hwyrach yr wythnos hon.