Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Rwy’n croesawu’r ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi heddiw, sef ymateb llawn Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (‘Comisiwn Silk’).
Daw’r ddogfen fanylach hon yn sgil y cyhoeddiad lefel uchel a wnaethpwyd gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU ar 01 Tachwedd. Ynddi ceir rhagor o wybodaeth am ddatganoli pwerau benthyca, Treth Dir y Dreth Stamp, Treth Tirlenwi a’r posibilrwydd o gynnal refferendwm ar ddatganoli treth incwm yn rhannol. Mae’r ddogfen yn ymdrin hefyd â phob un o’r 33 argymhelliad a wnaethpwyd gan Gomisiwn Silk.
Isod ceir dolen at ddogfen Llywodraeth y DU 'Empowerment and responsibility: devolving financial powers to Wales'.
https://www.gov.uk/government/publications/empowerment-and-responsibility-devolving-financial-powers-to-wales (Saesneg yn unig)
Yr wythnos nesaf byddaf yn gwneud Datganiad Llafar yn y Cynulliad ar ymateb Llywodraeth y DU.