Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y diffyg eglurder o hyd ar natur perthynas y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, penderfynais baratoi strategaeth ryngwladol ddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddwyd drafft ymgynghori’r strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru a chafodd ei hyrwyddo hefyd mewn cylchlythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd cyfres o gwestiynau'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad, a oedd yn gofyn am sylwadau ar y tri nod allweddol a sut y gallent gyflawni uchelgeisiau rhyngwladol Cymru.

Pan ddaeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Hydref roeddem wedi derbyn 110 o ymatebion. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o Gymru neu'r DU, gyda llond llaw o'r tu allan i'r DU. Roeddwn yn falch o gael ymateb gan Lywodraeth Gwlad y Basg a oedd yn rhoi sêl ei bendith i'r strategaeth ddrafft, ac yn falch o weld bod ein dwy lywodraeth yn rhannu’r un amcanion rhyngwladol, ac yn arbennig, yn rhannu ymrwymiad i gynaliadwyedd ac i genedlaethau'r dyfodol.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn cytuno â’r nodau yn llawn neu’n rhannol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr a oedd yn cytuno'n rhannol â'r nodau yn awgrymu y dylid aralleirio’r nodau rywfaint neu'n awgrymu nodau ychwanegol y gellid eu datblygu.

Roedd llawer o ymatebwyr yn croesawu cynnwys cyfrifoldeb ar lefel byd-eang, cyfrifoldeb cymdeithasol a strategaeth sy'n seiliedig ar werthoedd. Roedd llawer yn cydnabod cyfraniad a rôl y sectorau Addysg a Diwylliannol o ran cyflawni uchelgeisiau’r strategaeth, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi datblygiad economaidd a datblygu cysylltiadau rhyngwladol trwy fyfyrwyr a sefydliadau Addysg Uwch ynghyd â defnyddio myfyrwyr, diwylliant a Chymry ar wasgar i gefnogi ein hagenda pŵer meddal.

Mae'r strategaeth ddrafft yn amlygu’r rôl bwysig y gall ein pobl a’n sefydliadau diwylliannol, yng Nghymru a thros y môr, ei chwarae i godi proffil rhyngwladol Cymru. Soniodd nifer o ymatebwyr am rôl Cymry ar wasgar fel ased allweddol, ac y gellid cryfhau'r defnydd ohonynt, ac alumni, yn y strategaeth derfynol.

Cafwyd ymateb cadarnhaol hefyd i'r ffaith fod y strategaeth yn cydnabod rôl bwysig a gwerthfawr cymunedau rhyngwladol fel rhan o wead ein cymuned amrywiol yng Nghymru.

Mae gan Gymru berthynas fasnachol fyd-eang gref o ran allforio a denu mewnfuddsoddiadau. Yn y bennod Cynhyrchion, mae'r strategaeth yn nodi cynlluniau i arddangos arbenigedd Cymru ym maes seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchiadau ffilm a theledu er mwyn dangos bod gennym economi modern a bywiog.

Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno’n llawn neu’n rhannol gyda’r dewis o dair canolfan ragoriaeth, roedd cytundeb cryf bod angen mwy o eglurder ynglŷn â pham y dewiswyd y sectorau hyn. Dywedodd amryw o’r ymatebwyr hefyd y gallai’r dull hwn ymddangos yn gyfyngol o ran denu buddsoddiad o sectorau eraill a chefnogi ymchwil a datblygu. Yn ogystal, galwodd nifer o ymatebwyr am fwy o bwyslais ar fasnach deg, gwaith teg a chyfrifoldeb amgylcheddol i gefnogi'r gweithgarwch sy'n cael ei gynnig yn y strategaeth ac i sicrhau bod y nodau strategol yn ategu ei gilydd.

Mae diwylliant ac iaith Cymru wedi cyfrannu at dwristiaeth ryngwladol a mwy o gydnabyddiaeth fel cyrchfan i ymwelwyr. Yn y bennod Lle, nodwyd yr angen i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy fel blaenoriaeth, a thynnwyd sylw at raglen Cymru o Blaid Affrica a'n Byrddau Iechyd i ddangos ein hymrwymiad i gyfrifoldeb ar lefel fyd-eang. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cytuno â'n dull gweithredu, ond yn teimlo nad oedd yr uchelgeisiau yn mynd yn ddigon pell i wir arddangos cryfderau Cymru.

O ran ein gwaith datblygu rhyngwladol, roedd galw am weithgarwch ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y rhaglen gyfredol, Cymru o Blaid Affrica.

Yn gyffredinol, croesawyd y gwaith a wnaed gan raglen Cymru o Blaid Affrica, gyda gwahaniaeth barn ar fanteision ac anfanteision canolbwyntio ar nifer fach o ardaloedd daearyddol.

Roedd y sylwadau ar yr ymrwymiad i gefnogi twristiaeth gynaliadwy yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, yn unol â thema gyffredinol yr ymatebion i’r bennod hon, roedd yr ymatebwyr yn teimlo y gellid gwneud mwy i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach a hyrwyddo cynnig Cymru. Yn ogystal, nodwyd rôl y Gymraeg o ran hyrwyddo Cymru fel pwynt gwerthu allweddol, ochr yn ochr â’r dirwedd naturiol a digwyddiadau diwylliannol adnabyddus fel Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd pwyntiau allweddol a themâu allweddol yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried a'u pwyso a mesur dros y misoedd nesaf wrth i'r broses o ddrafftio'r ddogfen derfynol barhau. Fodd bynnag, mewn ymateb i'r ymgynghoriad, dyma rai penderfyniadau rydw i wedi eu gwneud ar unwaith:

  • rhoi mwy o gyd-destun i'r angen am strategaeth;
  • cynnwys datganiad gweledigaeth ar ddechrau'r ddogfen i fynegi'r Gymru rydym yn disgwyl ei gweld mewn 5 mlynedd;
  • cadw tri nod y strategaeth fel ag y maen nhw: codi proffil Cymru’n rhyngwladol; tyfu'r economi drwy gynyddu’n hallforion a denu buddsoddiad o’r tu allan; sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang;
  • parhau i ganolbwyntio ar y tri diwydiant i arddangos Cymru, ond cynwys mwy o wybodaeth yn y ddogfen am y rhesymeg y tu ôl i ddewis y diwydiannau hyn;
  • sicrhau bod y neges hon yn glir - mae'r sectorau hyn yn ffocws i arddangos creadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg ond nid yw'n hymdrechion o ran denu mewnfuddsoddiad wedi'u cyfyngu i'r rhain yn unig.   
  • amlygu themâu allweddol cynaliadwyedd, technoleg a chreadigrwydd – gan dynnu sylw at ddiwydiannau pellach i weithredu fel prosiectau magnet, yn benodol o dan y themâu allweddol hyn;
  • lleihau'r adran ar Brexit a mewnfudo a chanolbwyntio ar gynnal ein perthynas dda ag Ewrop a rôl ein swyddfa ym Mrwsel;
  • datblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer Cymry ar wasgar a chynllun digidol cynhwysfawr i helpu i gynyddu ein llais dramor.

Bydd gwahaniaeth barn bob amser ar fanylion unrhyw strategaeth a'r dull gweithredu, ond mae un peth yn glir – wrth wynebu ansicrwydd, mae angen eglurder o ran blaenoriaethau a chyfeiriad teithio. Bydd y strategaeth newydd yn amlinellu sut rydym yn ymdrin â rhyngwladoli ac yn annog dull Tîm Cymru o gyflawni ein huchelgeisiau – gan ein huno o amgylch cyfres gyffredin o amcanion a neges gyson. Ni fwriedir i'r strategaeth fod yn rhestr o weithredoedd.

Bydd natur y strategaeth bob amser yn un lefel uchel er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon ystwyth a hyblyg i ystyried unrhyw newidiadau ehangach yng nghysylltiadau rhyngwladol y DU, ac yn gallu ymateb i flaenoriaethau byd-eang sy’n newid.

Mae'r strategaeth ryngwladol yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU wrth wireddu ein huchelgais ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o'i chyflawni, ac felly ni fyddai'n briodol rhyddhau strategaeth newydd yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol yn y DU. Felly, rwyf wedi cynllunio ein bod yn aros tan y flwyddyn newydd cyn cyhoeddi'r strategaeth derfynol.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb.

Ymgynghoriad crynodeb o ymatebion