Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr Adroddiad Cryno ar yr Ymatebion i’r ymgynghoriad ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru o heddiw, 17 Hydref 2012 ymlaen. Mae’r adroddiad ynghlwm â’r datganiad yn ogystal.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y Bil rhwng 12 Mawrth ac 1 Mehefin 2012. Rwy’n hynod falch o fod wedi derbyn 275 o ymatebion ysgrifenedig oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid, a byddaf yn cyhoeddi pob un ohonynt yn llawn, os rhoddwyd caniatâd i wneud hynny, cyn cyflwyno’r Bil ym mis Ionawr 2013. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae unigolion a sefydliadau ledled Cymru wedi’i dangos tuag at y Bil hwn. Mae’n dangos unwaith eto mor bwysig yw cyfraniad y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol i fywydau pob un ohonom.
Diben yr ymgynghoriad hwn oedd mesur barn yr arbenigwyr – sef y rhai sy’n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector annibynnol, y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny a’r bobl sy’n gofalu am y rheini sy’n eu defnyddio. Rydym wedi ystyried pob sylw yn ofalus, ac mae’r sylwadau hynny wedi bod yn ganolog i’r broses o ddatblygu’r Bil i’r pwynt hwn.
Fel y byddech yn disgwyl, mae’r ymatebion wedi rhoi llawer inni feddwl amdano wrth ddatblygu’r Bil. Ym mis Mehefin cyhoeddais fy mhenderfyniad i gynnwys y cynigion ar reoleiddio ac arolygu mewn deddfwriaeth ar wahân. Mae sylwadau’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy wedi bod yn bwysig dros ben wrth ddrafftio ffurf fanwl y Bil. Byddaf yn cyhoeddi cyfres o ddatganiadau yn rhoi gwybod ichi am y cynigion polisi y bydd y Bil yn eu cynnwys pan fyddaf yn ei gyflwyno ym mis Ionawr. Bydd y cyntaf o’r datganiadau hyn yn ymdrin â Diogelu, a chaiff ei gyhoeddi’n nes ymlaen yr wythnos hon.
Rwyf wedi bod yn glir fy meddwl erioed ei bod yn hanfodol inni gael y ddeddfwriaeth bwysig hon yn iawn, ac fel y dywedais ym mis Mehefin, rwy’n falch o weld fod yna gefnogaeth eang i’n hagenda i drawsnewid er mwyn creu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni yn sgil y Bil hwn.