Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Ym mis Mai, cyhoeddais ymgynghoriad ynghylch ein cynigion ar gyfer diwygio’r broses reoleiddio. Roedd yr ymatebion yn cefnogi'r angen am ddeddfwriaeth a'r diwygiadau arfaethedig a amlinellwyd. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Ar 29 Medi 2016, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ganlyniad ei adolygiad o ddosbarthiad ystadegol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru. Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod LCC yn gynhyrchwyr yn y farchnad gyhoeddus ac maent wedi cael eu hailddosbarthu i'r is-sector Corfforaethau Anariannol Cyhoeddus at ddibenion cyfrifon gwladol ac ystadegau economaidd eraill ONS.
Ym mis Awst 2017, roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn darparu tua 141,000 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy. Mae cyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru o sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn dibynnu ar gyfraniad sylweddol gan y sector LCC sydd, yn ei dro, yn gofyn am i'r sector barhau i gael y rhyddid i fenthyca gan y sector preifat i ychwanegu at gyllid grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyllid eraill.
Bydd dosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn Gorfforaethau Anariannol Cyhoeddus yn arwain at gynnydd yn Lefel Fenthyca Net y Sector Cyhoeddus gan y bydd benthyciadau marchnad y sector preifat a gymerir gan y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sydd newydd gael eu hailddosbarthu i'r sector cyhoeddus, (swm o £200 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar hyn o bryd) yn cael eu nodi fel cost yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru.
Pe byddai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i gael eu dosbarthu'n Gorfforaethau Anariannol Cyhoeddus, byddai cyllid ar gyfer tai yn cystadlu yn erbyn blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Mae'n debygol y byddai hyn yn arwain at lai o dai fforddiadwy newydd a llai o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniad cadarnhaol y mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ei wneud i'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt, gan gynnwys sicrhau cyflogaeth a manteision economaidd yn lleol. Byddai hefyd yn arwain at ansicrwydd i randdeiliaid, gan gynnwys arianwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i ariannu sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig annibynnol.
Oni bai ein bod yn cymryd camau a fyddai'n galluogi'r ONS i wrthdroi'r ailddosbarthiad er mwyn i LCC unwaith eto gael eu dosbarthu fel sefydliadau'r sector preifat, bydd ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru yn cael eu bygwth.
Yn adolygiad yr ONS yng Nghymru, nodwyd elfennau o reolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a arweiniodd at benderfyniad yr ONS y dylai LCC gael eu hailddosbarthu. Pwerau sy'n berthnasol i LCC yw'r rhain yn bennaf, a nodir yn Neddf Tai 1996, gan gynnwys y darpariaethau a fewnosodwyd gan Fesur Tai (Cymru) 2011.
Felly, mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r drefn ar gyfer rheoleiddio LCC i ddileu neu ddiwygio'r pwerau perthnasol. Ar ôl gwneud hyn, byddai'r ONS yn gallu ystyried ailddosbarthu LCC yng Nghymru i'r sector Corfforaethau Anariannol Preifat, a thrwy hynny liniaru'r effeithiau a'r pryderon cyllidebol a nodir uchod.
Nid yw'r ffaith bod y rheolaethau'n cael eu dileu yn golygu na fydd y sector yn cael ei reoleiddio. Rydym eisoes wedi cymryd camau i adolygu ac atgyfnerthu ein dull o reoleiddio, ac mae fframwaith rheoleiddio newydd wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2017.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/diwygio-rheoleiddio-landlordiaid-cymdeithasol-cofrestredig
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.