Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r ymateb i'w hymgynghoriad Papur Gwyrdd ar ddiwygio caffael. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad o fis Rhagfyr 2020 tan fis Mawrth 2021 gyda dros 600 o randdeiliaid yn ymateb, gan gynnwys llawer o Gymru.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gwnaethom hefyd ymgysylltu â'n rhanddeiliaid yng Nghymru i'n helpu i benderfynu ar y dull y dylem ei fabwysiadu ar gyfer diwygio deddfwriaeth caffael yng Nghymru.

Cyhoeddais ym mis Awst y bydd darpariaeth ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru yn cael ei gwneud o fewn Bil Caffael Cyhoeddus Llywodraeth y DU. Ers hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Bil Diwygio Caffael y DU i gyfrannu at waith datblygu'r Bil. 

Nod diwygio'r rheolau caffael cyhoeddus yw creu system sy'n symlach, yn fwy agored, yn deg ac yn gystadleuol.

Gan fod yr ymgynghoriad bellach wedi'i gyhoeddi, bydd fy swyddogion yn ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid i glywed eu barn ar y newidiadau a wnaed ers cyhoeddi'r Papur Gwyrdd.

Fel y nodwyd yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Awst, bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Er bod Bil Caffael Cyhoeddus Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar y prosesau sy'n sail i gaffael, bydd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn canolbwyntio ar sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu cyflawni drwy ein gwaith caffael. Gyda'i gilydd, bydd y ddau Fil hyn yn darparu trefn newydd ar gyfer caffael sy'n sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, gan gynnwys gwaith teg.