Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd yn ganolog i’n hamcanion addysgol. Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn pennu disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfer athrawon, a bydd yn gyfrwng hollbwysig i hyrwyddo gwelliant, gan helpu pob ysgol i sefydlu llythrennedd a rhifedd ar draws holl bynciau’r cwricwlwm. O Fedi 2013 bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn un o ofynion statudol y cwricwlwm ar gyfer disgyblion o’r dosbarth derbyn hyd flwyddyn 9.
Mae profion darllen a rhifedd statudol yn cael eu datblygu ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 i Flwyddyn 9 er mwyn darparu mwy o dystiolaeth gadarn o lefel cyrhaeddiad disgyblion, yn ogystal ag asesiadau athrawon.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau ar y Fframwaith a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol rhwng Mehefin a Hydref y llynedd. Derbyniwyd 160 o ymatebion ysgrifenedig oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid ac aeth dros 300 o athrawon i sesiynau ymgynghori i roi eu hadborth ar gynigion Llywodraeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar am bob ymateb a ddaeth i law.
Daeth sawl thema bwysig i’r amlwg yn sgil yr ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r profion:
- roedd yr ymatebwyr yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol datblygu deunydd atodol i’w ddefnyddio ochr yn ochr â’r profion darllen, ond byddai angen ystyried hyn yn iawn rywbryd eto unwaith y byddai’n hysbys beth fyddai union natur y profion newydd;
- roedd mwyafrif yr ymatebwyr o’r farn y byddai’n werth nodi sgoriau oedran ar gyfer y profion, yn ogystal â sgoriau safonol a sgoriau cynnydd. Ond roedd llai o gefnogaeth i’r syniad o rannu’r sgoriau hyn yn allanol;
- o ran goblygiadau ymarferol marcio a gweinyddu profion darllen a rhifedd cenedlaethol, roedd yr ymatebion yn amrywio’n eang;
- roedd amrywiaeth eang o awgrymiadau o ran y ffordd orau o ddadansoddi data’r profion a’u defnyddio i helpu i godi safonau, a mynegodd nifer o’r ymatebwyr bryderon ynghylch dilysrwydd data’r profion mewn perthynas â diogelwch canlyniadau’r profion.
Yn ystod gwanwyn 2013, caiff adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi ar wefan Dysgu Cymru. Ond heddiw rwyf am amlinellu’r camau rydym yn eu cymryd i ymateb i’r ymgynghoriad.
Darparu deunydd atodol
Mae deunydd ychwanegol yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon i lunio asesiadau ffurfiannol o lefel darllen eu disgyblion. Bydd hyn yn ychwanegu at y data a ddarperir gan y profion eu hunain. Yn ogystal, bydd deunyddiau sampl sy’n berthnasol i’r prif brofion darllen a rhifedd ar gael cyn Mai 2013 i helpu ysgolion i’w cynnal.
Sgoriau oedran
Yn unol â’r consensws o’r ymgynghoriad, caiff sgoriau oedran eu darparu er gwybodaeth i rieni, ynghyd â chyngor priodol am sut i’w dehongli. Serch hynny, yng ngoleuni pryderon am ddilysrwydd cyffredinol, ni chaiff y sgoriau hyn eu defnyddio wrth ddadansoddi data na’u nodi ar gyfer ysgolion fel rhan o’r dadansoddiad a ddarperir ar lefel ysgol.
Defnyddio’r data
Rwyf wedi gwneud nodyn o’r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ac mae fy swyddogion yn parhau i ymchwilio, ynghyd â chyflenwyr y systemau, i weld beth y gellir ei wneud i helpu ysgolion ac eraill i ddefnyddio data’r profion yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Cymorth i weithredu’r system newydd
Rydym wedi cynllunio’r profion i fod mor syml â phosibl i’w gweinyddu. Mae hefyd yn bwysig nodi y bydd llawer o ysgolion wedi bod yn gweinyddu amrywiaeth o brofion beth bynnag am nifer o flynyddoedd. Bydd y baich ychwanegol yn llai iddyn nhw, felly. Serch hynny, rwy’n cydnabod y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar gyfer ysgolion yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac rwy’n bles felly i allu cyhoeddi:
- Grant un tro o £0.5 miliwn i ysgolion, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13 yn unig, i’w helpu i gynnal y profion yn ystod y flwyddyn gyntaf honno;
- Hyfforddiant arbennig sy’n canolbwyntio ar y prawf, dan arweiniad datblygwyr y prawf, mewn cyfres o gynadleddau rhanbarthol fel rhan o’r Rhaglen Cymorth Cenedlaethol ar gyfer y Fframwaith;
- Llinell gymorth ffôn a gwasanaeth cymorth sy’n ymweld ag ysgolion, eto yn y flwyddyn gyntaf, i sicrhau bod y profion yn cael eu cynnal mewn ffordd sydd mor llyfn â phosibl.
Byddaf yn cyhoeddi mwy o fanylion ynghylch y mentrau hyn yn fuan.