Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru, fel rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw am brofion. Yn ystod yr wythnos a oedd yn dechrau ar 7 Medi, cafodd bron i 64,000 o bobl ganlyniadau profion, o’i gymharu ag ychydig dros 45,000 yr wythnos flaenorol.  Dyma'r nifer uchaf o brofion sydd wedi’u prosesu mewn un wythnos ac mae'n dangos bod cynnydd amlwg wedi bod yn llif y profion. Rydym wedi bod yn cynyddu'r capasiti profi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig ac wedi ychwanegu at hynny drwy ddefnyddio rhwydwaith Labordai Goleudy y DU. Ond mae'r galw bellach yn fwy na'r capasiti profi ac rydym yn gweld y pwysau ar y Labordai Goleudy.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy’n codi yn awr yn sgil y problemau yn Labordai Goleudy y DU. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y materion hyn cyn gynted ag sy'n bosibl ac yr wyf wedi cael trafodaethau â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ofyn am sicrwydd bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r awdurdodau lleol, y Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu gwaith ac am y camau gweithredu cyflym a gymerwyd ganddynt dros y penwythnos a’r wythnos hon  i wneud yn siŵr bod profion yn parhau i gael eu cynnal yn ein meysydd blaenoriaeth er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn achosion a welwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Senedd am y camau rydym yn eu cymryd i ddarparu capasiti profi ychwanegol.

Fel y mae Aelodau'r Senedd yn gwybod, rwyf eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £32m yng nghapasiti profi Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y bydd modd gweithio 24 awr y dydd yn ein labordai rhanbarthol yng Nghaerdydd, Abertawe a'r Rhyl yn ogystal â 6 labordy gwib newydd yn ein hysbytai cyffredinol acíwt.  Bydd hyn yn hwb i’n cadernid ac yn gwella’r amseroedd prosesu. 

Gan weithio gyda’r Byrddau Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym wedi cytuno ar gapasiti profi ychwanegol mewn Canolfannau Profi Torfol (canolfannau profi drwy ffenest y car) a fydd yn cael eu cefnogi gan labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae’r capasiti ychwanegol hwn gennym yn barod yn Rodney Parade yng Nghasnewydd a bydd y dull hybrid hwn yn cael ei gyflwyno i bob Canolfan Profi Torfol dros yr wythnos nesaf. 

At hynny, bydd pum Uned Profi Symudol, sy'n cydweithio â’r Labordai Goleudy ar hyn o bryd, yn defnyddio labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lle hynny. Mae dwy o'r rhain yn cael eu defnyddio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a bydd y tair arall i yn cael eu defnyddio i gefnogi profion yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Rydym yn parhau i ddefnyddio tair Uned Profi Symudol a weithredir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynorthwyo mewn mannau lle ceir brigiadau o achosion.    

Bydd y camau hyn yn rhoi capasiti profi ychwanegol inni y tu hwnt i'r hyn y mae modd ei gyflawni drwy ddefnyddio’r Labordai Goleudy, wrth inni aros i newidiadau gael eu gwneud i’r system honno.

Rwyf am ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod profion ar gael lle mae'r angen mwyaf, yn enwedig wrth ddelio â galw clinigol, ymateb i frigiadau o achosion, diogelu ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gallu parhau.