Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar ôl i’r Cynulliad benderfynu peidio â chymeradwyo’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol am y darpariaethau perthnasol yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd lleol, rwyf wedi ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, sydd wedi cytuno i ddiwygio’r Bil yn unol â hynny drwy dynnu Byrddau Draenio Mewnol trawsffiniol o’r system archwilio ar gyfer Lloegr.

Gallai hynny, wrth gwrs, arwain at sefyllfa lle na fyddai unrhyw drefniadau archwilio o gwbl ar gyfer Byrddau Draenio Mewnol trawsffiniol. Rwyf wedi cyhoeddi cyn hyn ei bod yn fwriad gennyf gyflwyno Gorchymyn, o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a fyddai’n trosglwyddo swyddogaethau Byrddau Draenio Mewnol sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru i Gyfoeth Naturiol Cymru, ar yr amod y ceir cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i hynny. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau, o ran amseriad y newid hwnnw, na fydd unrhyw fwlch yn y trefniadau archwilio ar gyfer y ddau Fwrdd Draenio Mewnol trawsffiniol. Edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth y Cynulliad i roi’r mesur hwn yn ei le.  

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.