Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Fel rhan o'r Cynllun Cyflawni Ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i gynnal adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) yng Nghymru. Comisiynwyd yr Athro Ralph Tabberer i gynnal yr adolygiad a chyflwyno adroddiad ar ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth HCA ar draws Cymru ac argymhellion, lle bo angen, i’w gwella.
Mae'r Athro Tabberer wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw ac mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ei ganfyddiadau ac ar fy nisgwyliadau i o ran y gwaith y bydd angen ei wneud i sicrhau bod HCA yng Nghymru yn cyrraedd safon meincnod sy'n cyfateb i'r hyfforddiant athrawon gorau sydd ar gael ar lefel ryngwladol.
Gwnaeth yr adolygiad ganolbwyntio'n bennaf ar y meysydd hynny a oedd bwysicaf ar gyfer codi safon, ansawdd a chysondeb yr addysgu, yr hyfforddiant a'r asesu sy'n rhan o'r HCA ar draws Cymru. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar strwythur y cwrs a'r sylw a roddir i bynciau penodol ac ar gasglu tystiolaeth o arweinyddiaeth strategol gref ar draws y sector HCA.
Wrth gynnal yr adolygiad hwn, mae'r Athro Tabberer wedi ymgynghori'n eang â'r sector HCA, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol a’r darparwyr HCA presennol. I ategu'r gwaith hwn, cynhaliwyd prosiect ymchwil annibynnol bach i gasglu sylwadau mentoriaid ysgol ac athrawon newydd gymhwyso.
Fel rhan o'r gwaith adolygu, gwnaed asesiad cryno o statws yr HCA yng Nghymru o'i gymharu â meincnodau rhyngwladol a gwledydd fel y Ffindir a Singapôr, ac mae copi o'r dadansoddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiad yr adolygiad ac fy ymateb innau i argymhellion yr adroddiad.
Rwy'n croesawu casgliadau'r adroddiad. Maent yn onest ac yn benodol. Mae'r adroddiad yn rhoi darlun cymysg. Er bod y fframwaith rheoleiddiol sy'n sail i'r HCA yn gadarn a bod tystiolaeth o arfer da, mae hefyd yn glir o adroddiadau arolygu Estyn bod lle i wneud gwelliannau sylweddol, yn enwedig ar lefel arweinyddiaeth strategol ar draws y sector HCA. Mae canfyddiadau'r adroddiad yn rhoi rhybudd clir y bydd angen i'r ddarpariaeth HCA wella os ydym eisiau bod ymhlith y goreuon yn y byd yn y maes hwn.
Yng Nghymru, mae angen sector HCA sy'n addas at y diben ac sy’n barod i gefnogi'r diwygiadau ehangach a weithredir mewn ysgolion ac yn y sector addysg yn gyffredinol er mwyn gwella deilliannau dysgwyr ar bob lefel. Mae angen i ni sicrhau bod yr HCA wedi'i alinio i'r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith, yn cefnogi'r Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol ac yn adlewyrchu egwyddorion Ymarfer, Adolygu a Datblygu ynghyd â’r mesurau sydd yn eu lle ar hyn o bryd i wella effeithiolrwydd ysgolion a'r gwaith ehangach sydd ar y gweill i ddiwygio'r gwasanaethau addysg yng Nghymru.
Rhaid i'r holl ddarparwyr HCA a rhanddeiliaid allweddol gamu i'r adwy i godi safonau drwy wella ansawdd y ddarpariaeth a'r arweinyddiaeth yn y sector HCA, a rhoi arweiniad clir waeth a yw’r HCA yn cael ei ddarparu drwy'r prifysgolion, hyfforddiant ar sail cyflogaeth mewn ysgolion, neu ddysgu hyblyg o bell.
Rydym yn cynhyrchu athrawon da, ac yn ddiamau ceir enghreifftiau o arferion da iawn yn y sector HCA. Fodd bynnag, nid yw'r Canolfannau HCA newydd a ddeilliodd o adolygiad o'r HCA yn 2006 yn dangos arwyddion clir eu bod yn cydweithio'n effeithiol ar lefel strategol a Chymru gyfan i wella'r ddarpariaeth ymhellach ac i godi safonau ac ansawdd yr HCA ar draws Cymru. Mae angen i ni sicrhau darpariaeth fwy cyson ar gyfer pob myfyriwr HCA yng Nghymru lle bynnag y caiff eu hyfforddi.
Fe welwch fod yr argymhellion yn bellgyrhaeddol ac yn gofyn am gyfraniad gan yr holl randdeiliaid i wneud gwelliannau. I sicrhau llwyddiant y broses ddiwygio a chyflwyno newidiadau, mae'n hanfodol penodi uwch gynghorydd arbenigol ar HCA i arwain y gwaith hwn, ac i helpu i feithrin gallu a sicrhau bod y sector HCA yng Nghymru yn cydweithio i gyflawni'r heriau sydd o’i flaen.
Pan fydd wedi'i benodi, bydd y Cynghorydd yn gweithio'n uniongyrchol â'r Canolfannau HCA, y Brifysgol Agored a darparwyr hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth a'u hysgolion partner ar lefel uwch er mwyn cyflwyno newidiadau, meithrin cysylltiad rhwng gwneuthurwyr polisi a'r sector a rhannu arferion gorau. Bydd hefyd yn dwyn ynghyd arweinwyr uwch ym mhob Canolfan HCA ac Is-Gangellorion y prifysgolion i rannu nod a dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae angen ei wneud i godi a chynnal safonau a sut i roi'r ddealltwriaeth honno ar waith.
Bydd disgwyl i'r cynghorydd weithio'n agos â CCAUC ac Estyn i weithredu'r argymhellion hynny sy'n berthnasol iddynt hwy a sicrhau eu bod yn cydweithio â'r sector i godi safonau. Yn benodol, bydd yn gweithio gyda nhw ar adegau hanfodol yn ystod ac yn syth ar ôl arolygiadau statudol ffurfiol o ddarpariaeth HCA lle mae gofyn cymryd camau i wella'r ddarpariaeth, a hefyd yn ystod trefniadau monitro arferol a'r trefniadau ail-arolygu dilynol.
Byddaf yn ymgynghori'n ffurfiol ar gynigion i ddiwygio'r Meini Prawf Achredu statudol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr HCA gael eu hail-achredu'n rheolaidd i sicrhau bod safonau'n gyson ac yn cael eu cynnal. Hynny yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n caniatáu achredu parhaus oni bai bod diffyg cydymffurfiaeth a bod perfformiad yn sylweddol is na'r disgwyl yn dilyn arolygiad.
Rydym yn bwriadu cryfhau'r trefniadau sy'n galluogi CCAUC i dynnu achrediad yn ôl os yw perfformiad yn annigonol ac ailddyrannu niferoedd HCA os yw perfformiad mewn Canolfan HCA yn methu. Byddaf hefyd yn ystyried cynyddu'r niferoedd sy’n gallu dilyn llwybrau hyfforddi amgen mewn ysgolion os bydd angen ac os na welir newidiadau.
Mae'r adroddiad o blaid cyflwyno Ysgolion Hyfforddi a hoffwn ystyried yn fwy manwl sut y gellid gweithredu'r argymhelliad hwn yn y dyfodol. Gwnaeth Adolygiad Hill o wasanaethau addysg yng Nghymru sôn yn benodol am agweddau ar ddarpariaeth HCA mewn ysgolion a byddaf yn ystyried yn ofalus pa mor effeithiol yw'r rhaglenni presennol o HCA sy'n seiliedig ar gyflogaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Bydd pob ysgol dda yn cael ei hannog i rannu'r cyfrifoldeb am baratoi athrawon newydd yn drylwyr gyda'r darparwyr HCA.
I gloi, rwy'n disgwyl gweld ac eisiau gweld canlyniadau'n gyflym. Un o'r ffactorau allweddol ar gyfer gwella cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc yw hyfforddi athrawon i'r safon uchaf bosibl. Mae angen i Ganolfannau HCA achub ar y cyfle hwn i gydweithio i rannu a chefnogi arferion gorau ac i ddatblygu dull gweithio cyson ar bob lefel er mwyn i ni allu llwyddo i wneud Cymru'n un o'r gwledydd gorau ar gyfer hyfforddi athrawon.
Amgaeir copi o adroddiad yr adolygiad, fy ymateb innau i'r argymhellion (Atodiad A) a dadansoddiad cryno o'r HCA yng Nghymru a'i statws mewn perthynas â meincnodau ansawdd rhyngwladol (Atodiad B).