Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Comisiynwyd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad manwl o gyfraith cynllunio yng Nghymru er mwyn symleiddio a chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth. Daeth yr adolygiad i ben ar 30 Tachwedd 2018 pan gyflwynwyd ei adroddiad, ‘Cyfraith Cynllunio yng Nghymru: Adroddiad Terfynol’ i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru. Gosodwyd yr adroddiad terfynol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd ac fe'i cyhoeddwyd ar wefan Comisiwn y Gyfraith. 

Yn unol â'r protocol y cytunwyd arno rhwng Gweinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith ar 2 Gorffennaf 2015, rhaid i'r Llywodraeth roi ymateb interim i'r Adroddiad i Gomisiwn y Gyfraith o fewn chwe mis i'r dyddiad y'i cyflwynwyd ac y'i cyhoeddwyd. Rhaid rhoi ymateb manylach o fewn 12 mis.

Heddiw, rwy'n falch o fod wedi cyflwyno a chyhoeddi ymateb interim Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad, sy'n canolbwyntio ar y casgliadau craidd a nodir yn Rhan 1 o'r Papur Ymgynghori (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017) a'r Adroddiad Terfynol. Yn benodol, mae'n nodi ymateb y Llywodraeth i farn Comisiwn y Gyfraith ar y canlynol:

  • yr angen i symleiddio a chydgrynhoi cyfraith cynllunio;
  • yr achos dros god cynllunio;
  • cwmpas yr ymarfer cydgrynhoi cychwynnol.

Gallwch weld yr ymateb interim yn:

https://llyw.cymru/ymateb-dros-dro-i-adroddiad-comisiwn-y-gyfraith-ar-y-gyfraith-gynllunio-yng-nghymru

Rydym yn parhau i ystyried y 192 o argymhellion a nodir yn Rhan  2 o'r Adroddiad, y bydd ein hymateb manwl, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni, yn canolbwyntio arnynt.