Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ar 24 Medi, fe ddarperais ymateb cychwynnol i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Reoleiddio a Chofrestru Gofal Plant yng Nghymru. Yn awr gallaf roi gwybodaeth i Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad. Mae fy swyddogion hefyd wedi cwblhau adroddiad cryno ar yr ymatebion a gafwyd, a bydd yr adroddiad hwnnw’n cael ei roi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.
Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol o’r sector gofal plant. Cafwyd dros 130 o ymatebion ysgrifenedig a daeth dros 80 o gynrychiolwyr o’r sector gofal plant, Awdurdodau Lleol a’r sector ieuenctid i ddigwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd ledled Cymru. Cafodd digwyddiadau mwy lleol ar gyfer darparwyr eu cynnal hefyd gan y sefydliadau gofal plant a chwarae ar ran Llywodraeth Cymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd, ac i’r sefydliadau gofal plant a chwarae am eu cymorth i sicrhau ymateb cynrychiolaidd da o blith rhanddeiliaid.
Roedd y prif ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gynigion Llywodraeth Cymru i ymestyn y terfyn oedran uwch ar gyfer cofrestru gorfodol yng nghyswllt darpariaeth gofal plant y tu hwnt i 8 oed. Fel a gyhoeddais ym mis Medi, o 1 Ebrill 2016 bydd y terfyn oedran uwch yn cael ei ymestyn o 8 i 12 oed. Bydd hyn yn sicrhau bod dull cyson o reoleiddio ansawdd ac addasrwydd darpariaeth gofal plant hyd at 12 oed, bydd yn gwneud y system yn gyson â rhannau eraill o’r DU, a bydd yn ei chysoni â’r cynllun Gofal Plant Di-dreth newydd yn 2017.
Fel rhan o’r trefniadau i ymestyn y terfyn oedran ar gyfer cofrestru, mae angen gwneud newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i sicrhau eu bod yn cymryd y gofynion ar gyfer plant hŷn i ystyriaeth. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl am newidiadau penodol i’r SGC i’w gwneud yn bosibl ymestyn y terfyn oedran ar gyfer cofrestru a hefyd yn gwahodd sylwadau mwy cyffredinol am y safonau. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion yn cefnogi ein cynnig y dylai’r newidiadau i’r SGC fod yn briodol i oedran y plentyn.
Bydd newidiadau penodol i’r SGC, a oleuwyd gan adborth a gafwyd yn yr ymgynghoriad, yn cael eu cyhoeddi’n gynnar yn 2016. Fodd bynnag, mae’r adroddiad cryno, sy’n cynnwys yr ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad, yn rhoi trosolwg o’r newidiadau sy’n cael eu gwneud, yn ogystal â manylu ar y newidiadau a’r trefniadau penodol yn y SGC o ran cymarebau staffio a chymwysterau.
Wrth wneud y newidiadau hyn, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion i’r ymgynghoriad a goblygiadau’r newidiadau ar gyfer cynaliadwyedd y sector. Rwy’n ymwybodol o’r heriau sylweddol y mae’r sector gofal plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran cynnal y ddarpariaeth bresennol. Rwy’n gwerthfawrogi’r modd cadarnhaol ac adeiladol y mae pob rhan o’r sector wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Rwy’n credu y bydd y newidiadau yr ydym wedi’u nodi’n taro cydbwysedd rhwng helpu i sicrhau bod yr holl blant mewn darpariaeth gofal plant gofrestredig yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a phriodol ar y naill law, ac ystyried barn a phryderon a fynegwyd am effaith unrhyw feichiau cynyddol ar ddarparwyr gofal plant a’r goblygiadau cysylltiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr ar y llaw arall.
Byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i’r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â materion eraill yn yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad.
Mae AGGCC yn ymgysylltu’n helaeth â’r sector gofal plant i godi ymwybyddiaeth o’r estyniad i’r terfyn oedran ar gyfer cofrestru a goblygiadau’r newidiadau ar gyfer darparwyr a rhieni. Fel rhan o’r trefniadau hyn, mae digwyddiadau rhanbarthol i randdeiliaid yn cael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn ac yn gynnar ym mis Rhagfyr i drafod cynlluniau ar gyfer rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Byddaf yn parhau i hysbysu Aelodau ynghylch materion sy’n codi o’r ymgynghoriad.