Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weindog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym yn rhoi gwerth mawr ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd system gofal cymdeithasol sy’n llewyrchus ac yn ffynnu, sy’n darparu gofal o ansawdd rhagorol, yn cefnogi gwaith deniadol a gwerth chweil ac yn cysylltu’n agos â’r GIG a’r sector cyhoeddus ehangach.
Rydym wedi buddsoddi’n gyson yn y sector gofal cymdeithasol, ac wedi cyflwyno cap ar gostau gofal cartref a sicrhau y gall pobl gadw mwy o’r cynilion y maent wedi gweithio’n galed i’w hennill, cyn talu am eu gofal eu hunain. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gofal cymdeithasol y tymor hwn, gan gynnwys talu cyflog byw gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol.
Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol a mwy sicr sydd i’w ddisgwyl ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2022. Bydd y rhain yn troi’n ardoll iechyd a gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2023.
Fodd bynnag, rydym yn bryderus y bydd cynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn rhoi pwysau ariannol newydd ar weithwyr sydd ar y cyflogau isaf – mae’r trothwy ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn is na’r lwfans personol ar gyfer Treth Incwm. Mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar gostau i gyflogwyr ar adeg pan fo’r economi’n ceisio adfer ar ôl y pandemig.
Mae’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a fydd yn dechrau o fis Ebrill 2022, ynghyd â chynnydd yn ystod y flwyddyn mewn cyllid i’r GIG yn Lloegr, yn codi gobeithion am gynnydd mewn cyllid i wasanaethau yng Nghymru. Serch hynny, rhaid inni aros am ganlyniad Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU cyn y gallwn wybod ag unrhyw sicrwydd faint yn union o gyllid y bydd Cymru’n ei gael o ganlyniad.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddiwygiadau arfaethedig i’r drefn ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr, a fydd yn effeithio ar asedau a chynilion pobl yn Lloegr. Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU lefel a fydd wedi’i gosod ar £20,000, ar gyfer asedau y bydd unigolion yn gallu eu cadw yn Lloegr os daw’r newidiadau arfaethedig i rym. Mae’r system codi tâl sydd gennym yng Nghymru yn wahanol – mae ein terfynau ni yng Nghymru eisoes yn fwy hael na’r terfynau asedau sydd wedi’u cyhoeddi gan Brif Weinidog y DU.
Byddwn yn ystyried goblygiadau manwl cynigion Llywodraeth y DU, gan gynnwys y materion trawsffiniol a allai fod yn rhai cymhleth a’r cysylltiadau rhwng cynigion Llywodraeth y DU a’r system les a budd-daliadau. Nid yw’r rhain yn faterion datganoledig, ond maent yn cael effaith fawr ar bobl Cymru.
Mae llawer iawn o waith eisoes wedi’i wneud yng Nghymru i edrych ar yr opsiynau hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi penderfynu y bydd y Grŵp Rhyngweinidogol yn cael ei adalw i ystyried y camau nesaf ar gyfer Cymru.