Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Fanyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) a Datganiad cychwynnol o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr yn ystod cyfnod 2019-2024.

Rwyf wedi cyflwyno’r achos dros fuddsoddi yn ein rhwydwaith trenau i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ers misoedd lawer. Hefyd, rwyf wedi annog Ysgrifennydd Cymru i weithio o fewn llywodraeth y DU er mwyn sicrhau’r canlyniadau cywir i ni.

Yr wyf yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiadau heddiw sydd nid yn unig yn methu â darparu unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yn y cyfnod 2019-2024, ond nid yw chwaith yn cadw at yr ymrwymiad i drydaneiddio'r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae’n siom fawr fod Gweinidogion y DU yn dewis briffio’r wasg yn hytrach na Gweinidogion Cymru cyn eu penderfyniad i dorri eu haddewid i foderneiddio’r brif reilffordd yn ne Cymru, a dewis yn hytrach i geisio cuddio’r newyddion drwg hwn ar ddiwedd y sesiwn seneddol

Ers yr oedi cyn cyflwyno'r cynllun yn wreiddiol o'r cyfnod buddsoddi cyfredol i'r cyfnod 2019-24, rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i egluro'r amserlenni ar gyfer trydaneiddio Prif Reilffordd Great Western hyd at Abertawe. Byddai'r cynllun hwn wedi sicrhau gwelliannau sylweddol a mawr eu hangen i deithiau rhwng dwy ddinas fwyaf Cymru ac i'r cymunedau ar hyd y llwybr.

Dyma’r gwelliannau a addawyd i deithwyr a busnesau gan Lywodraeth y DU pan gafodd y cynllun ei gyhoeddi yn 2012.  Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU yn llesteirio yr ymdrechion ar y cyd i ddatgarboneiddio y rhwydwaith trafnidiaeth yn gyfan gwbl.

Mae'n amlwg i mi na allwn ganiatáu i Lywodraeth y DU barhau i gefnu ar eu hymrwymiadau a tharfu ar dwf economaidd yng Nghymru. Mae'n rhaid datganoli pwerau a chyfran cymesur o’r cyllid yn y maes hwn fel y gallwn sicrhau bod ein seilwaith rheilffyrdd yn cael y cyllid sydd ei angen i ddarparu'r gwasanaethau cyflym, dibynadwy a rheolaidd sydd eu hangen i gefnogi ein cymunedau a busnesau, ac i ddatblygu ein heconomi.

Er bod Cymru a’r Gororau yn cynnwys oddeutu 11 y cant o gledrau’r rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, nid yw’r ardal wedi elwa ar ddim ond 1.5 y cant o arian Llywodraeth y DU sy’n cael ei wario ar wella’r rheilffyrdd ers 2011. Mae hyn yn annerbyniol ac yn niweidiol i’n heconomi a’n cymunedau.

Mae’n hollol anheg fod pobl Cymru o dan anfantais dro ar ôl tro oherwydd bod y gwariant ar y rheilffyrdd yn canolbwyntio ar welliannau sy’n bennaf o fudd i dde-ddwyrain Lloegr.

Mae teithwyr yma yng Nghymru yn dioddef rhwydwaith annibynadwy, siwrneiau araf a diffyg lle, sy’n golygu bod cyfran lai o lawer yn gallu dewis teithio ar drenau o gymharu â Lloegr a’r Alban.

Daw newyddion heddiw ar ben penderfyniad yr Adran Drafnidiaeth i oedi cyn rhyddhau y tendr ar wasanaeth rheilffordd newydd Cymru a’r Gororau, o ganlyniad i’w methiant ei hunain i ddatganoli y pwerau masnachfreinio i Gymru o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

Gyda’i gilydd, mae’r methiant i gadw at addewidion i fuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd a methu â chadw at yr addewidion i ddatganoli pwerau y cytunwyd arnynt eisoes, yn pwysleisio yr angen am setliad newydd hirdymor ar gyfer y rheilffyrdd, pan gaiff Cymru benderfynu ar ei dyfodol ei hun, heb orfod dibynu ar Lywodraeth y DU, sy’n torri ei haddewidion dro ar ôl tro.