Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ffigurau heddiw yn siom wrth reswm – nid dyma roedden ni eisiau ei weld.
Mae Cyfrifiad 2021 yn giplun o’r hyn sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf. Cawn olwg fanwl ar y canlyniadau hynny ochr yn ochr â’r holl ystadegau ac ymchwil arall sydd ar gael i ni.
Rwyf wedi sôn yn aml bod y Gymraeg yn fwy na jyst rhywbeth rwy’n ei siarad – mae’n rhywbeth rwy’n ei deimlo. Ac rwy’n teimlo bod mwy a mwy o bobl yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw. Y gamp yw troi’r teimladau hynny’n ddefnydd iaith.
Cymerwn ni amser i edrych yn fanwl ar y data, yn benodol y ffigurau sy’n ymwneud â phobl 3-15 oed. Roedd COVID-19 yn golygu bod 2021 yn adeg ansicr iawn, a llawer o bobl yn poeni am allu iaith eu plant, a’r plant hynny allan o’r ysgol. Mae’n bosibl ein bod yn gweld y consyrn hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd maen nhw’n adrodd ar allu eu plant yn y Gymraeg.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru’n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n nodi eu bod yn siarad ychydig o Gymraeg. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â ffigurau’r cyfrifiad sy’n cael eu rhyddhau heddiw. Fe wnawn ni edrych ar hyn yn fanwl hefyd.
Rwyf wedi dweud o’r blaen y byddaf yn adolygu’n taflwybr ystadegol yng ngoleuni data’r cyfrifiad i gael gweld beth yn fwy gallwn ei wneud i helpu mwy ohonon ni i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd. Fel rhan o hyn, byddaf am siarad gyda phobl ledled Cymru wedi’r Calan. Ond mae’n hymrwymiad yn parhau i filiwn o siaradwyr ac i ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.
Mae’r cyfrifiad yn dangos beth sydd wedi digwydd dros y deng mlynedd diwethaf. Mae Cymraeg 2050 gyda ni ers 5 mlynedd, a hanner o’r rheini yn ystod cyfnod COVID-19. Mae gyda ni resymau da i fod yn optimistaidd am y degawd sydd o’n blaenau ni. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru. Heddiw, mae mwy o bobl mewn addysg Gymraeg, mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a mwy o falchder yn ein hiaith a’n hunaniaeth nag erioed o’r blaen.