Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni, cawsom y trydydd adroddiad cynnydd gan Gadeiryddion y Bwrdd Cyflenwi sydd â'r dasg o ddatblygu argymhellion yr Arglwydd Burns i ddarparu gwell dewisiadau amgen i'r M4 o amgylch Casnewydd. 

Mae Uned Cyflenwi Burns yn Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni argymhellion Comisiwn Burns. 

Nod y cynnig blaenllaw yw darparu gorsafoedd rheilffordd newydd yn Ne-ddwyrain Cymru a fyddai'n caniatáu miliynau o deithiau trên newydd bob blwyddyn. Mae'r Uned Gyflenwi wedi gwneud gwaith manwl yn dylunio pum gorsaf newydd ar Brif Linell De Cymru, ac yn ymgynghori arnynt. Llwyddodd gwaith rhagorol Trafnidiaeth Cymru sicrhau bron £3m o gyllid datblygu gan Lywodraeth y DU a gwneud yr hyn oedd ei angen i gwblhau gwaith dichonoldeb a llunio achos busnes cryf. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU i gytuno ar biblinell o flaenoriaethau seilwaith rheilffyrdd o fewn y cyfyngiadau y maent yn gweithio ynddynt ar ôl camreoli economaidd y weinyddiaeth flaenorol yn San Steffan. Mae'r prosiect trawsnewidiol hwn yn elfen allweddol yn y biblinell flaenoriaeth honno.

Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan drwy barhau i fwrw ymlaen â'r gwaith ar yr argymhellion eraill. Rydym yn ariannu dros £2m o waith y flwyddyn ariannol hon gan gynnwys ar welliannau i'r rhwydwaith yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, prosiectau teithio cynaliadwy yn Sir Fynwy a rhaglen hirdymor i greu coridor teithio cynaliadwy rhwng Casnewydd a Chaerdydd.  

Ar hyn o bryd mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) De-ddwyrain Cymru yn ystyried y polisïau a'r prosiectau a fydd yn cael eu blaenoriaethu yn eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Byddwn yn gweithio gyda'r CJC i sicrhau bod gwaith Uned Cyflenwi Burns yn cael ei ystyried fel rhan o hyn. 

Hoffwn ddiolch i'r Athro Simon Gibson CBE, Cadeirydd Bwrdd Cyflenwi Burns, am ei wasanaeth dros y tair blynedd diwethaf wrth yrru gwaith yn ei flaen yn gyflym i ddylunio'r prosiectau hyn.  Mae'n rhaid i bob llywodraeth nawr weithio i flaenoriaethu buddsoddiad i fwrw ymlaen â phrosiectau i'w gweithredu.