Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o’m hymrwymiad parhaus i rannu gwybodaeth am y sefyllfa hon sy’n datblygu o hyd, rwyf mewn sefyllfa i roi diweddariad pellach i chi ar gamau sy’n cael eu cymryd yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell.  

Mae cryn bryder a thrafodaeth wedi bod ynghylch y profion sgrinio cychwynnol sy’n cael eu cynnal gan BRE ar ran Llywodraeth y DU. Mae’r profion hyn yn dal i gael eu cynnal, ond mae Grŵp Arbenigwyr y DU wedi cadarnhau y bydd cyfres o brofion ‘system lawn’ yn dechrau cael eu cynnal maes o law hefyd. Bydd y rhain yn profi sut mae gwahanol gyfuniadau o gladin a deunydd inswleiddio yn adweithio mewn efelychiad o dân ar raddfa fawr ar lwyfan profi 9 metr o uchder. Ar ôl i ganlyniadau’r prawf gael eu dadansoddi, rydym yn disgwyl y bydd Panel Arbenigwyr y DU yn rhoi ystyriaeth bellach iddynt a bydd hyn, yn ei dro, yn llywio’r camau nesaf mewn perthynas ag adeiladau lle mae cladin ACM wedi’i nodi.

Wrth i ni ddisgwyl cyngor pellach gan Banel Arbenigwyr y DU, dylai landlordiaid barhau i weithio’n agos gyda’u gwasanaethau tân ac achub lleol i sicrhau bod mesurau rhagofalus priodol ar waith ac ystyried y risg gyffredinol o dân fesul adeilad.

Erbyn hyn, mae gennym ddarlun clir o’r sefyllfa yn y sector tai cymdeithasol ac rydym yn ehangu ein ffocws i ystyried y sefyllfa’n fwy cyffredinol. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio’n well gyda’n partneriaid i ddeall maint y broblem mewn adeiladau eraill sydd â chladin ACM, neu efallai bod ganddynt gladin ACM, ac sy’n peri pryder. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys adeiladau mewn lleoliadau addysg, yn ystâd GIG Cymru ac mewn perchnogaeth breifat.

Yn ogystal â’r tyrau uchel yn y sector tai cymdeithasol, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi adeiladau preswyl uchel sydd mewn perchnogaeth breifat ledled Cymru. Mae fy swyddogion hefyd yn defnyddio cofnodion y Gofrestrfa Tir i grynhoi’r manylion diweddaraf am berchnogaeth yr adeiladau hyn a dilysu’r wybodaeth honno gyda Gwasanaethau Gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn bwriadu ysgrifennu at berchennog pob adeilad erbyn diwedd yr wythnos hon, gan roi arweiniad ar y gwaith o nodi a sgrinio unrhyw ddeunyddiau ACM ar yr adeiladau hyn. Rydym yn disgwyl yr un fath gan berchnogion preifat ag yr ydym yn ei ddisgwyl gan landlordiaid cymdeithasol: eu bod yn cyflawni gwaith sgrinio cychwynnol ar ACM gyda’r BRE, eu bod yn defnyddio mesurau rhagofalus lle nodir ACM, yn unol â chanllawiau’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, a bod ganddynt asesiadau risg diogelwch tân cyfredol a chynhwysfawr.

Ar draws yr ystâd gyhoeddus ehangach, rydym yn dechrau gweld darlun cliriach o lawer o lefel y defnydd o ACM, sy’n gymharol isel yma yng Nghymru. Hyd yma, nid yw Byrddau Iechyd wedi nodi unrhyw ACM yn adeiladau’r GIG, yn seiliedig ar y meini prawf a amlinellwyd ar 3 Gorffennaf. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gwirio eto, ac rwy’n disgwyl derbyn cadarnhad terfynol yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, Sefydliadau Addysg Bellach a CCAUC mewn perthynas â phresenoldeb deunyddiau ACM ar adeiladau sy’n bodloni’r trothwyon uchder mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Nid oes unrhyw adeiladau ysgol neu sefydliadau AB sy’n bodloni’r meini prawf wedi’u nodi hyd yma. Mewn perthynas â’r sector AU, rydym yn parhau i weithio gyda CCAUC a phrifysgolion i nodi adeiladau â chladin ACM sy’n bodloni’r trothwyon y mae’n ofynnol i ni brofi eu samplau. Rydym yn gweithio’n agos hefyd gyda CCAUC ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn nodi llety myfyrwyr tyrau uchel yn y sector preifat y mae’n bosib y bydd angen cymryd camau pellach yn eu cylch. Ar hyn o bryd, mae tair prifysgol wedi nodi adeiladau isel sy’n eiddo i’r brifysgol sydd ag ACM ac yn ystyried, neu wedi cymryd, camau rhagofalus, gan gynnwys profi samplau, neu wedi derbyn cadarnhad annibynnol (nid gan y BRE) bod y deunydd inswleiddio o ansawdd gwrth-dân priodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda landlordiaid a rheolwyr adeiladau ac yn sicrhau bod canllawiau’n cael eu dosbarthu cyn gynted ag y bo hynny’n briodol. Hoffwn eu hatgoffa hefyd fod Panel Arbenigwyr y DU wedi nodi’n glir mai dim ond ar ôl ystyriaeth fanwl y dylid mynd ati i symud a/neu gael gwared ar gladin ACM.

Yn olaf, rwy’n croesawu’r bwriad i sefydlu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân a byddaf yn edrych ymlaen at dderbyn ei sylwadau cychwynnol a’i argymhellion.