Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog
Ar 27 Mawrth 2019, cyhoeddodd yr Uchel Lys ei ddyfarniad yn yr adolygiad barnwrol a oedd wedi’i ddwyn gerbron gan Bernadette Sargeant, yn ymwneud â’r weithdrefn y bwriedid ei defnyddio i lywio’r ymchwiliad annibynnol o dan arweiniad un o Gwnsleriaid y Frenhines. Roedd yr ymchwiliad wedi’i sefydlu i edrych ar weithredoedd a phenderfyniadau’r cyn Brif Weinidog mewn perthynas ag ymadawiad Carl Sargeant â’r Cabinet ym mis Tachwedd 2017.
Daeth y llys i’r casgliad fod y cyn Brif Weinidog, wrth wneud penderfyniadau am y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr ymchwiliad annibynnol, wedi gweithredu’n groes i’r hyn yr ymgymerwyd i’w wneud mewn datganiad i’r wasg ym mis Tachwedd 2017. Roedd y datganiad yn nodi y byddai’r trefniadau paratoadol ar gyfer yr ymchwiliad yn cael eu gwneud yn annibynnol ar ei swyddfa ef.
Daeth y llys i’r casgliad fod yr hyn yr ymgymerwyd i’w wneud yn orfodadwy yn gyfreithiol ac nad oedd yn rhesymol i’r cyn Brif Weinidog wyro oddi wrth hynny.
Caniataodd y llys y cais am adolygiad barnwrol, gan nodi bod y diffynyddion - y cyn Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Parhaol - yn anffodus, wedi’u harwain at gamgymeriad oherwydd camddealltwriaeth o’r sefyllfa gyfreithiol gan y naill a’r llall.
Ond gwrthododd y llys yr hyn a oedd yn sail i weddill her Mrs Sargeant, gan gynnwys yr her o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Yn sgil dyfarniad y llys, mae angen ailedrych yn awr at nifer o gwestiynau a godwyd ym mis Mai 2018 yn y protocol gweithredol ar gyfer yr ymchwiliad, sef:
- A ddylai unrhyw dystiolaeth lafar a roddir i’r ymchwilydd annibynnol gael ei chlywed yn breifat (paragraff 30 o’r protocol gweithredol);
- A ddylai’r ymchwilydd annibynnol gael y pŵer i wrthod caniatáu i’r hawlydd a theulu Mr Sargeant fynychu gwrandawiadau os bydd y ffaith eu bod yn bresennol yn achosi i dyst dynnu’n ôl er ei fod wedi cydsynio i roi tystiolaeth (paragraff 30 o’r protocol gweithredol);
- A ddylid gwrthod caniatáu i’r hawlydd a theulu Mr Sargeant ofyn cwestiynau i unrhyw dyst drwy eu cynrychiolydd cyfreithiol (paragraff 32 o’r protocol gweithredol).
Cyn cael fy mhenodi’n Brif Weinidog, ni chymerais ran yn y broses o ddatblygu’r protocol gweithredol. Er hynny, rwyf wedi dod i’r casgliad, yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys, y dylai’r materion hyn gael eu hailystyried yn annibynnol arnaf i a Llywodraeth Cymru.
Er mwyn sicrhau bod modd i’r broses ystyried hon ddigwydd, heb gyfeirio at unrhyw gylch gwaith blaenorol, mae Jonathan Jones CF, Cyfreithiwr y Trysorlys a Phennaeth Adran Gyfreithiol Llywodraeth y DU wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith.
Wrth lunio’i gasgliadau, bydd yn ystyried y dyfarniad, y dogfennau perthnasol a’r holl sylwadau blaenorol sydd wedi’u gwneud am y protocol gweithredol. Er mwyn bod yn agored, rwy’n bwriadu cyhoeddi’r llythyr y byddaf yn ei anfon at Mr Jones yn cadarnhau cwmpas y dasg hon.
Dylai’r broses fod wedi’i chwblhau cyn i gwest y crwner ddod i ben a bydd y protocol gweithredol a fydd yn deillio ohoni yn cael ei gyhoeddi. Fodd bynnag, ni fydd modd iddo fod yn hollol derfynol hyd nes y bydd trafodion y cwest wedi’u cwblhau hefyd. Os bydd yn briodol ailystyried unrhyw beth ymhellach ar y cam hwnnw, byddaf yn cyhoeddi unrhyw lythyr cylch gwaith arall a gaiff ei lunio.
Rwyf am i’r broses hon ddigwydd, heb wneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar hyn o bryd, oherwydd fy mod yn awyddus i’r protocol gweithredol barhau’n drywydd sy’n agored imi pan fydd ymchwiliad y crwner wedi dod i ben a’i gasgliadau wedi’u cyhoeddi.
Unwaith y bydd cwest y crwner wedi dod i ben, ymgynghorir â’r teulu Sargeant ac â phartïon eraill â buddiant cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chamau nesaf yr ymchwiliad annibynnol.
Ar ôl cwest y crwner, rwy’n bwriadu cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad ynglŷn â rhyddhau gwybodaeth heb ganiatâd. Yr adeg honno, bydd yr holl adroddiadau perthnasol sy’n ymwneud â marwolaeth drist ac annhymig Carl Sargeant yn cael eu cyhoeddi mewn un lle - canlyniad cwest y crwner, y protocol gweithredol (gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau iddo), adroddiad yr ymchwiliad i ryddhau gwybodaeth, ac adroddiad Hamilton.
Rwy’n anfon copi o’r datganiad hwn yn uniongyrchol at Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd a chadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, sy’n cwrdd ddydd Gwener, 5 Ebrill.