Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Ar 7 Hydref, cyflwynodd y Swyddfa Gartref welliant i’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i ddisodli un o’r eithriadau presennol i gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gydag eithriad newydd.
Yr eithriad dan sylw yw’r eithriad sy’n ymwneud â ‘Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol’ (ASBOs), a restrir dan baragraff 12 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Byddai gwelliant y Swyddfa Gartref, a gafodd ei dderbyn yn ystod cam Adroddiadau Tŷ’r Cyffredin, yn disodli hwn â’r eithriad canlynol: “Orders to protect people from behaviour that causes or is likely to cause harassment, alarm or distress”.
Gosodwyd memorandwm a chynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y mater hwn gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Pan gafwyd dadl ar y mater ar 26 Tachwedd roedd consensws trawsbleidiol yn y Cynulliad na ddylid cytuno i welliant Llywodraeth y DU o ran yr eithriad sy’n ymwneud â’r ASBOs.
O ganlyniad i’r bleidlais, ysgrifennodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth at Norman Baker AS, y Gweinidog Atal Troseddu yn y Swyddfa Gartref, i ofyn i Lywodraeth y DU gael gwared ar y ddarpariaeth berthnasol o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona. Pwysleisiodd y byddem yn barod i dderbyn gwelliant sy’n cynnal y status quo, tra’r ydym yn aros am ganlyniad Silk Rhan 2, ond na allem dderbyn lleihau’r cymhwysedd deddfwriaethol, a gynrychiolir gan welliant Llywodraeth y DU.
Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn egluro ein pryderon ynghylch y gwelliant hwn, a’i effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cadarnhaodd ef na fydd Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt, ac na fyddant yn gwneud gwelliant pellach i’r Bil. Felly, bydd yr eithriad disodli gan Lywodraeth y DU yn dod i rym pan fydd y ddarpariaeth berthnasol yn y Bil yn cychwyn. Yn ôl y Bil, bydd y ddarpariaeth yn cychwyn drwy orchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Rwy’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â’r eithriad disodli fel y’i drafftiwyd, er gwaethaf gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru a’r consensws trawsbleidiol yn y Cynulliad y dylid gwrthod yr eithriad disodli. Fe wnaethom roi nifer o enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gallai’r eithriad disodli arwain at ddiffyg eglurder o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac o bosibl gallai gyfyngu ar y cymhwysedd hwnnw. Rwy’n ystyried y dylid cynnal trafodaeth lawn ar unrhyw welliant i gynnwys Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a chytuno ar hynny â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, oherwydd ei arwyddocâd i’n setliad datganoli.
Er bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwneud unrhyw welliant i’r Bil mewn ymateb i’r Cynulliad yn gwrthod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, mae Gweinidog Atal Troseddu Llywodraeth y DU wedi gwneud datganiad ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae Is-ysgrifennydd Gwladol dros Wybodaeth Droseddol wedi gwneud datganiad ysgrifenedig yn Nhŷ’r Arglwyddi i egluro beth yn eu tyb nhw yw effaith y gwelliant i’r eithriad ASBO.
Gall y datganiad helpu i liniaru’r risg o ddeddfwriaeth y Cynulliad, mewn rhai meysydd datganoledig, yn y dyfodol yn dod o fewn yr eithriad diwygiedig (er enghraifft, gorchmynion sy’n amddiffyn unigolion sy’n agored i niwed mewn lleoliadau gofal rhag ymddygiad gan drydydd parti sy’n achosi trallod.) Ond byddai’n well o lawer cael eglurder ynghylch hynny ar wyneb y Bil. At hynny, nid yw’r datganiad yn ymdrin â’n pryder ni ynghylch effaith bosibl yr eithriad ar gymhwysedd y Cynulliad mewn meysydd datganoledig eraill, lle y credwn ni y gall y Cynulliad ddeddfu ar hyn o bryd i ymdrin ag ymddygiad sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod (megis tai neu’r gwasanaeth iechyd). Rwy’n ailddatgan y dylai’r Cynulliad gytuno ar unrhyw welliannau i Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, a dylai eu heffaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad fod yn eglur - nid yw hynny’n wir yma.
Yn y tymor hirach, barn Llywodraeth Cymru yw na ddylai fod eithriad “ymddygiad gwrthgymdeithasol” o gwbl, fel yr eglurwyd yn ein tystiolaeth i Gomisiwn Silk. Os bydd symudiad yn y dyfodol tuag at fodel o bwerau a gedwir yn ôl ar gyfer datganoli yng Nghymru, fel yr ydym wedi’i gefnogi, ni ddylid cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y rhestr o faterion a gedwir yn ôl.