Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 10 Rhagfyr 2014 rhoddais wybod i’r Aelodau bod Dr Mike Shooter yn cyhoeddi adolygiad annibynnol o swydd a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru.  Bwriad yr adolygiad oedd ystyried sut y gallai Cymru sicrhau bod ganddi Gomisiynydd Plant â swyddogaeth mor glir ac effeithiol â phosib.  Mae’r argymhellion yn ceisio cryfhau ymhellach swydd werthfawr y Comisiynydd, ac rwy’n diolch i Dr Shooter am ei ddirniadaeth a’i ddiwydrwydd.  
Rwy’n awdyddus i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus iawn.  

Mae 15 o argymhellion wedi’u nodi fel materion gweithredol ar gyfer y Comisynydd Plant.  Rwyf wedi cyfarfod yr Athro Sally Holland i drafod y materion hyn.  Rwy’n falch ei bod wedi ymateb mewn dull agored a phositif i’r argymhellion, a’i bod eisoes yn gweithredu ar nifer ohonynt, gydag ymrwymiad i ystyried ymhellach yr argymhellion sy’n weddill.  

Mae 2 argymhelliad yn gysylltiedig â chraffu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfan-gwbl, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd i dynnu ei sylw atynt.  

Rydym yn glir ynghylch yr argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, wedi eu hystyried yn ofalus, y dylai’r cyfrifoldeb am benodi a chyllido’r Comisiynydd aros gyda Llywodraeth Cymru, tra bo’r Cynulliad yn gyfrifol am graffu ac atebolrwydd.  Byddai rhannu’r ddau fath o swyddogaeth yn sicrhau bod y Comisiynydd yn parhau i fod yn annibynnol.  Caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog, yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored, sy’n cynnwys Panel gyda chynrychiolaeth trawsbleidiol a phobl ifanc.  Mae’r Comisiynydd, fel eraill mewn bywyd cyhoeddus, yn atebol i’r cyhoedd drwy Bwyllgorau pwnc a Chyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Mae angen edrych ymhellach ar yr argymhellion sy’n weddill, ac mae nifer o’r rhain yn gysylltiedig â deddfwriaeth bosib.  Cyn ymrwymo i ddeddfwriaeth newydd, mae angen edrych a yw’n ddymunol, yn angenrheidiol ac yn ymarferol.  Rydym yn ymwybodol o swyddogaethau a phwerau gwahanol y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n benodol i’w cylch gwaith, a dylid cadw at hyn.  Rydym o’r farn na ddylid cynnwys yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o’n hystyriaethau ni.  Byddem angen tystiolaeth o’r angen am un darn o ddeddfwriaeth i ddiffinio holl swyddogaethau a dibenion y Comisiynydd, neu o’r angen i ddiwygio deddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau mwy o gysondeb.  Mae swyddogion wedi dechrau gweithio i drefnu cwmpas unrhyw ddeddfwriaeth newydd, i ystyried yr angen amdano, a’i oblygiadau. Fodd bynnag, ni fyddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd, pe byddai’n cael ei ystyried yn angenrheidiol, yn bosibl tan dymor nesaf y Cynulliad.  

Er yn derbyn bod angen i’r Comisiynydd gael digon o adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau, mae’n rhaid i bob corff sy’n derbyn cyllid gyhoeddus gyflwyno tystiolaeth o werth am arian.  Mae hyn yn fwyfwy pwysig o ystyried yr hinsawdd ariannol presennol a’r angen i fod yn fwy effeithlon.  Byddwn yn cynnig cymorth, cyngor ac anogaeth i’r Comisiynydd i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio, ac i nodi arbedion o ran gwasanaethau cymorth a chostau swyddfeydd.  

Rydym eisoes wedi mynd i’r afael â rhai argymhellion, megis cynnwys plant a phobl ifanc ac Aelodau o bob plaid yn y broses o benodi’r Comisiynydd Plant; yr angen i roi’r gorau i swyddi presennol pan fydd gwrthdaro buddiannau posibl; a strategaeth hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP a’r Comisiynydd Plant ymysg gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc.  

Mae’r adolygiad a’i argymhellion wedi caniatáu trafodaethau agored a gonest gyda’r Comisiynydd Plant.  Byddaf yn parhau i weithio gyda’r Comisiynydd i sicrhau ei bod yn ymwybodol o waith y Llywodraeth o ymateb i’r argymhellion, ac i fod yn rhan ohono.  Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau maes o law.