Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Lluniodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ar Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru. Un o argymhellion eu hadroddiad oedd ffurfio cwmni ambarél gwasanaethau ynni dielw ar gyfer Cymru. Wrth ymateb i'r adroddiad gwnes ymrwymo i ystyried y cynnig. Mae'r adroddiad ar y digwyddiadau trafod y cynhaliodd Llywodraeth Cymru bellach wedi'i gyhoeddi ac mae'r Datganiad hwn yn nodi fy ymateb i argymhelliad y Pwyllgor.
Nid wyf o'r farn fod achos cryf wedi'i gyflwyno dros sefydlu cwmni cyflenwi ambarél ar gyfer Cymru.
Roedd yr argymhelliad yn seiliedig ar yr awydd i fynd i'r afael â'r diffyg dewis o ran darparwyr ynni, a hefyd yr awydd i alluogi Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill a oedd yn dymuno creu manteision lleol drwy gynnig ynni am brisiau gostyngol i wneud hynny. Caiff Dŵr Cymru ei ddefnyddio fel enghraifft yn aml iawn. Er mwyn gallu efelychu'r model hwn dylai cwmni ynni tebyg fod wedi'i sefydlu cyn i'r diwydiant ynni gael ei breifateiddio yn yr 1970au. Mae nifer uchel o ddarparwyr ynni bellach yn rhan o farchnad gystadleuol iawn, fodd bynnag, gan gynnwys nifer o rai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sy'n cyflawni amcanion cymdeithasol lleol.
Trwy edrych yn fwy manwl ar gynigion rhatach presennol ar gyfer y rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd gwelir eu bod yn aml yn arwain at gynhyrchu mwy o garbon. Yn fy marn i mae ein dull ni o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, sef gwella perfformiad ynni cartrefi, yn sicrhau ateb hirdymor a fydd yn cefnogi ein nodau o safbwynt tlodi tanwydd a datgarboneiddio.
Yn ystod y digwyddiadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru trafodwyd y syniad cyffredinol o gwmni gwasanaeth ynni, a chanolbwyntiwyd ar gwmni cyflenwi ynni oherwydd y gofyniad yn yr argymhelliad i allu cynnig cyflenwad ynni yn lleol. I'r rhan fwyaf o bobl roedd y peryglon, yr heriau a'r tensiynau a oedd ynghlwm wrth y cynnig lle y byddai'r Llywodraeth yn sefydlu ac yn cynnal cwmni cyflenwi ynni lawer yn fwy na'r manteision posibl o wneud hynny. Teimlai llawer o bobl fod gan y Llywodraeth lais niwtral yr oedd pobl yn ymddiried ynddo, ac y gallai'r llais hwnnw gael ei golli petai'n rhan o'r farchnad cyflenwi ynni. Roedd y bobl a oedd â phrofiad o'r diwydiant yn teimlo y byddai cwmni cyflenwi ynni a fyddai'n gweithredu o fewn marchnad fasnachol yn ei chael hi'n anodd creu elw a chodi'r cyllid a fyddai'n ofynnol ar gyfer cynnal y canlyniadau cymdeithasol amrywiol a bennwyd yn yr argymhelliad. Cytunwyd yn ystod y tri digwyddiad na fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru sefydlu cwmni cyflenwi ynni.
Eto i gyd, roedd yn glir y gallai fod angen sefydlu cwmni cyflenwi fel rhan o'r gwaith o gyflawni diben penodol. Mae rhai Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yn ystyried yr angen am gwmni cyflenwi er mwyn cefnogi rhwydweithiau gwres lleol, er enghraifft, lle nad oes marchnad gystadleuol. Gobeithiaf y bydd yr adroddiad o gymorth iddynt a byddaf yn sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru sydd â diddordeb yn y mater yn ymwybodol o'r adroddiad fel bod modd iddynt barhau i ystyried opsiynau posibl.
Er nad yw cwmni cyflenwi ynni yn fodd o ateb llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym maes ynni, mae pobl yn disgwyl i'r Llywodraeth gymryd camau ynghylch nifer o feysydd. Gwelwyd yn glir yn ystod y digwyddiadau nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol o ystod ac amrywiaeth holl weithgarwch Llywodraeth Cymru. Gwnes bennu fy mlaenoriaethau a hefyd y camau yr wyf yn eu cymryd i'w cyflawni yn ystod fy Natganiad Llafar ym mis Rhagfyr y llynedd. Rwyf hefyd wedi ymateb i nifer o adroddiadau sy'n cynnwys argymhellion ynghylch gweithredu ym maes ynni. Mae'r ymatebion hyn yn cynnwys rhagor o fanylder ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud ar draws gwahanol feysydd er mwyn mynd i'r afael â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni'r blaenoriaethau hyn. Rwy'n bwriadu cyhoeddi adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf ar ddiwedd y flwyddyn.
Bydd y cyfeiriad clir a chyson a bennwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, sy'n cynnal y cyfarwyddyd strategol a nodwyd yn "Ynni Cymru - Newid Carbon Isel" yn cael ei atgyfnerthu ymhellach pan fyddaf yn gosod targedau ynni ym mis Medi, yn dilyn y digwyddiad a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf.
Rydym wedi cynnal digwyddiadau yn ddiweddar, ac wedi cynnwys pobl sy'n defnyddio ac yn cyflawni ein gwasanaethau cymorth ynni ar gyfer cymunedau a'r sector cyhoeddus, fel Ynni Lleol a Thwf Gwyrdd Cymru, er mwyn ceisio deall anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried goblygiadau'r adroddiad hwn fel rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud ym maes cyflenwi gwasanaethau yn y dyfodol.
Mae pobl wedi hoffi'r dull o gynnal digwyddiadau ynghylch pynciau penodol ac rwy'n bwriadu parhau â'r dull hwn wrth i ni fynd i'r afael â maes ynni, gan greu cymuned weithredu yng Nghymru ynghylch datgarboneiddio ynni a sicrhau manteision ar gyfer pawb. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud hi'n haws i bennu a chydnabod yr holl feysydd lle y mae pobl eisoes yn gweithredu. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain, pennu cyfeiriad a hefyd bennu uchelgais i Gymru mae gofyn i bob un ohonom gyfrannu at y gwaith o gyflawni.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.