Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig
Ar 23 Tachwedd 2010, cyhoeddais fy mod yn sefydlu grŵp annibynnol, gyda ffermwyr o bob cwr o Gymru yn aelodau ohono a than gadeiryddiaeth Rees Roberts, i adolygu Elfen Cymru Gyfan cynllun Glastir, sef y trefniadau fferm gyfan newydd ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru a fydd yn dechrau yn 2012. Pwrpas yr adolygiad yw dysgu o rownd gyntaf ceisiadau’r cynllun a gwneud argymhellion i wneud yr opsiynau o dan yr Elfen Cymru Gyfan yn fwy deniadol i’r gymuned ffermio. Fel y dywedais ar y pryd, doeddwn i ddim am adolygu egwyddorion sylfaenol y cynllun na’r canlyniadau amgylcheddol y mae’r cynllun yn ceisio eu gwireddu.
Cyflwynodd Rees Roberts adroddiad y grŵp annibynnol ar 16 Mawrth ac amgaeir copi.
Rwy’n ddiolchgar am waith caled y grŵp a’r amser a neilltuwyd ganddynt i ystyried cymhlethdodau amrywiol yr Elfen Cymru Gyfan ac am baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng problemau gweithredu’r cynllun ar lefel y fferm â darparu canlyniadau amgylcheddol mesuradwy, a hynny yn unol â gofynion y Comisiwn Ewropeaidd. Hoffwn ddiolch i aelodau unigol y grŵp adolygu a’u cadeirydd Rees Roberts am y gwaith hwn a mawr yw fy nghroeso i’w hadroddiad.
Rwyf wastad wedi bod yn glir mai llinyn mesur llwyddiant Glastir yn y pen draw fydd faint o ffermwyr unigol fydd am gymryd rhan ynddo ac mae’r adroddiad yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno newidiadau i gaboli’r cynllun ymhellach. Dylid edrych ar fy mhenderfyniadau heddiw fel rhan o broses barhaus i bwyso a mesur yn rheolaidd berthnasedd y cymorth sy’n cael ei roi trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru i reolwyr tir. Cafodd adolygiadau tebyg eu cynnal gyda chynlluniau’r gorffennol fel Tir Gofal, Tir Cynnal a Tir Mynydd, hefyd.
Mae’r grŵp wedi gwneud cyfanswm o 69 o argymhellion ac amgaeaf fy ymateb i’r argymhellion unigol.
Rwy’n fwy na bodlon derbyn mwyafrif yr argymhellion yn yr adroddiad gan y byddan nhw, yn fy marn i, yn ehangu apêl yr Elfen Cymru Gyfan, yn enwedig i’r ffermwyr hynny sydd wedi estyn eu cynlluniau Tir Gofal a Tir Cynnal i bara tan ddiwedd 2013. Yn arbennig, byddai gostwng y trothwy i leiafswm o 14 o bwyntiau yr hectar a thalu £14 yr hectar (neu £16.80 yn yr Ardal Lai Ffafriol) heb os o fantais i ffermydd mwy dwys. Daw’r trothwy is hwn i rym ar unwaith gan ganiatáu i ffermwyr ymuno â’r Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol (ACRES) ond nid Elfen wedi’i Thargedu Glastir. Rwyf wedi dweud wrth swyddogion i lunio mecanwaith i gefnogi cynhyrchwyr organig ardystiedig, o gofio fy mod wedi derbyn yr argymhelliad i beidio â haneru’r pwyntiau Glastir sydd eu hangen ar ffermwyr organig. Rwy’n fwy na pharod i dderbyn yr argymhelliad i ailystyried sail costio cyfraddau talu’r Elfen Cymru Gyfan er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn y costau sefydlog a phrisiau’r farchnad sydd wedi digwydd ers lansio’r cynllun. Hefyd, dw i’n barod i dderbyn bod angen mwy o hyblygrwydd yn rhai o opsiynau’r Elfen Cymru Gyfan, heb aberthu eu canlyniadau amgylcheddol, trwy gyflwyno opsiynau ychwanegol sy’n ymwneud â’r gofyn am 2m o bobtu perthi/gwrychoedd.
Caiff rhai o’r newidiadau, yn sgil yr argymhellion rwyf wedi’u derbyn, eu rhoi ar waith ar unwaith a byddant ar gael i’r ymgeiswyr presennol. Caiff yr ymgeiswyr hyn gyfle ddechrau blwyddyn nesaf i adolygu’u contractau Elfen Cymru Gyfan i ystyried newidiadau pellach i’r cynllun o ganlyniad i’r adolygiad. Bydd contractau’r ymgeiswyr hyn yn cychwyn yn unol â’r bwriad ar 1 Ionawr 2012. Byddwn yn cynnal y cyfarfodydd arolygu cyntaf rhwng ffermwyr a’m swyddogion yn nhair Swyddfa Ranbarthol Materion Gwledig yng Nghymru o fis Gorffennaf 2011. Yn y cyfamser, caiff rhai o’r ymgeiswyr hyn eu hystyried ar gyfer y Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol (ACRES) o dan Glastir ac ar gyfer ymuno â’r Elfen wedi’i Thargedu Glastir yn 2013.
Cyn belled â’m bod yn gallu eu derbyn mewn egwyddor, bydd newidiadau eraill sy’n cael eu cynnig gan yr adolygiad yn cael eu datblygu ymhellach gan fy swyddogion cyn gwneud penderfyniad terfynol arnynt. Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion i ddechrau ar y gwaith hwn ar unwaith gan fy mod wedi’i gwneud yn glir y bydd angen ymgorffori rhagor o newidiadau yn y rownd ymgeisio nesaf am yr Elfen Cymru Gyfan a fydd yn agor ar 1 Rhagfyr 2011 ac yn cau 29 Chwefror 2012. Caiff pecyn cymorth cynhwysfawr sy’n cynnwys hyfforddiant ar y fferm a chymorthfeydd personol i esbonio’r newidiadau pellach hyn i ffermwyr ei gyhoeddi yn yr haf.