Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Gorffennaf 2012, sefydlwyd Grŵp Adolygu annibynnol gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, er mwyn darparu cyngor ar wella darpariaeth Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Prif amcan y Grŵp oedd ystyried pa newidiadau y dylid eu gwneud i alluogi mwy o ddysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth, yn eu cymunedau ac yn eu gwaith yn y dyfodol.
Cyfarfu'r Grŵp a chasglu tystiolaeth gan nifer o randdeiliaid sydd ynghlwm wrth addysg Cymraeg ail iaith gan gynnwys athrawon, disgyblion a rhieni. Mae adroddiad terfynol y Grŵp, Un iaith i bawb, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013, yn tynnu sylw at nifer o broblemau gyda’r dull presennol o ddysgu Cymraeg ail iaith ac yn archwilio themâu rydym yn ymrwymedig o fynd i’r afael â hwy yn ystod y cam nesaf o’r gwaith o adolygu’r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru.
Ar 12 Mawrth cyhoeddwyd y bydd yr Athro Graham Donaldson yn cadeirio adolygiad annibynnol o’r trefniadau hyn ac yn darparu argymhellion a fydd yn sail i’r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr adroddiad Un iaith i bawb yn rhan bwysig o’r dystiolaeth wrth i’r Athro Donaldson symud y gwaith hwn yn ei flaen.
Bydd pob newid i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg i wella safonau mewn Cymraeg ail iaith i alluogi pobl ifanc i ddod yn siaradwyr Cymraeg cymwys yn y dyfodol. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at yr ymrwymiad a wnaed yn y Strategaeth iaith, Iaith fyw: iaith byw i gynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg i blant a phobl ifanc a’u hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
Mae argymhellion Un iaith i bawb yn amryfal ac yn amrywiol. Rydym yn mynd i’r afael â rhai ohonynt eisoes tra bo eraill yn argymhellion tymor hir sy’n gysylltiedig â’r gwaith hir-ddisgwyliedig ond angenrheidiol o ailwampio’r ddarpariaeth Cymraeg ail iaith.
Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi ei ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad sydd yn sefyll y tu allan i’r adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru.
Mewn ymateb i’r argymhellion, bydd Llywodraeth Cymru yn:
- hwyluso hybu’r Gymraeg fel pwnc ac fel sgil ar gyfer y gweithle;
- parhau i ariannu gweithgareddau ar gyfer athrawon Cymraeg ail iaith trwy Grant y Gymraeg mewn Addysg a’r Cynllun Sabothol;
- annog ysgolion i rannu arfer da o fewn ac ar draws consortia;
- gweithio gyda chonsortia i sicrhau bod trefniadau asesu statudol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a 3 yn cael eu gweithredu’n effeithiol;
- parhau i gomisiynu adnoddau dysgu ac addysgu o safon;
- gweithio gyda Sefydliadau Dyfarnu a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Cymraeg ail iaith diwygiedig yn addas;
- diddymu’r cwrs byr TGAU Cymraeg ail iaith; a
- monitro argaeledd ac ymrestriadau UG a Safon Uwch Cymraeg ail iaith.
Hoffem unwaith eto ddiolch i’r Athro Sioned Davies ac i aelodau’r Grŵp am eu gwaith caled i gynhyrchu’r adroddiad a’i argymhellion. Hoffem hefyd fynegi diolch i bawb a weithiodd ochr yn ochr â nhw, a gyfrannodd at eu gwaith ac i’r rhai a roddodd dystiolaeth a chyngor i’r Grŵp.