Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n croesawu adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n Bryd Cyflawni Dros Bobl Ifanc yng Nghymru’. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Cadeirydd, Keith Towler, aelodau’r Bwrdd, Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a’r sefydliadau gwaith ieuenctid ledled Cymru yr ydym yn eu gwerthfawrogi cymaint, ac rwyf wrth fy modd yn clywed am y momentwm positif sy’n cynyddu ar draws y sector.

Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud, a bod mwy o waith i’w wneud yn 2021 er mwyn sicrhau model gwaith ieuenctid cynaliadwy a chyffredinol ar gyfer holl bobl ifanc Cymru. Er bod y pandemig wedi arafu’r cynnydd o ran gwaith strategol y Bwrdd wrth gwrs, wrth ddechrau rhoi blaenoriaeth i roi cymorth hanfodol i weithlu gwaith ieuenctid, roedd cryfder y sector yn dal yn amlwg, a gwelwyd hyn drwy’r cydweithio mwy ar draws sectorau.

Roedd yn wych gweld y sectorau yn arwain yr ymateb i anghenion y gweithlu ar ddechrau’r pandemig ac yn helpu i baratoi’r canllawiau ar gyfer gwaith ieuenctid yn sgil Covid-19. Gwelwyd rhai enghreifftiau arbennig o waith ieuenctid digidol arloesol sydd wedi cefnogi pobl ifanc a’r gweithlu drwy gydol y pandemig, ac mae hyn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith ieuenctid digidol. Mae’r pandemig, a’r gwaith cryf sydd wedi’i wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn, hefyd wedi dangos pwysigrwydd gwaith ieuenctid i sectorau eraill megis tai ac iechyd. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod mor aruthrol anodd y mae hi wedi bod i bobl ifanc a’r gweithlu gwaith ieuenctid mewn llawer o achosion. Hoffwn ddiolch i weithwyr ieuenctid ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol am eu gwaith caled drwy gydol y pandemig, a thalu teyrnged i’r ffordd y maent wedi addasu ac esblygu er mwyn cefnogi pobl ifanc yn y cyfnod anodd hwn.

Rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol i weithredu ar sail canfyddiadau ymchwiliad 2018 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid. Mae Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019, a gefnogir gan y Bwrdd a rhanddeiliaid ar draws y sector, yn tynnu sylw at ein gweledigaeth i sefydlu arlwy cyffredinol o ran gwaith ieuenctid, sy’n seiliedig ar eu hawliau, lle mae pob person ifanc yn ffynnu, a chanddynt fynediad at ystod amrywiol o gyfleoedd, gyda chefnogaeth gweithlu amrywiol a medrus. Mae’r Bwrdd a Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth wedi dechrau’r gwaith hollbwysig o weithredu amcanion y Strategaeth yn unol â’n hymrwymiad i argymhellion yr ymchwiliad. Mae wedi bod yn glir yn ystod y cyfnod byr hwn fod y Bwrdd wedi cymryd camau sylweddol, gan ddod â’r sector at ei gilydd, diolch i’r unigolion diwyd, penderfynol sydd wedi bod wrth y gwaith.

Mae’n beth cadarnhaol iawn gweld pobl ifanc yn ymgysylltu â gwaith y Bwrdd a Llywodraeth Cymru, o ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad ar ddamcaniaeth newid mewn perthynas â gwaith ieuenctid i feirniadu un o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Mae cynnydd y Bwrdd o ran sefydlu pwyllgor pobl ifanc yn ganolog er mwyn sicrhau rôl allweddol pobl ifanc yn y gwaith strategol.

Roedd yn braf gweld Adroddiad Gwerth Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid Estyn a’r canfyddiad bod ‘cymwysterau gwaith ieuenctid yn arfogi myfyrwyr â chefndir cadarn mewn arfer gwaith ieuenctid, ac yn rhoi iddynt y medrau sydd eu hangen arnynt i gyflawni yn eu proffesiwn’. Edrychaf ymlaen at weld sut bydd gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth yn adlewyrchu hyn. Rhaid inni edrych yn ofalus hefyd ar sut y gallwn gynyddu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu drwy’r Gymraeg a sut y gallwn helpu i gyflawni Cymraeg 2050.

Edrychaf ymlaen at weld sut y gall y Bwrdd adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes o ran y weledigaeth hirdymor ar gyfer model cynaliadwy i gyflawni gwaith ieuenctid yn ei adroddiad terfynol yn 2021. Hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i gyflawni’r weledigaeth sydd i’w gweld yn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid, ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â’r Bwrdd i hybu’r cynnydd ar draws y sector, fel y gallwn sicrhau gwasanaethau gwirioneddol effeithiol i bobl ifanc ledled Cymru.

En – https://gov.wales/interim-youth-work-board-report-time-deliver-young-people-wales

Cy – https://llyw.cymru/adroddiad-bwrdd-gwaith-ieuenctid-maen-bryd-cyflawni-dros-bobl-ifanc-yng-nghymru