Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw ynghylch cyflogau'r sector cyhoeddus, mae'r datganiad hwn yn rhoi rhagor o fanylion am ddyfarniadau cyflog staff y GIG sydd ar gontractau Agenda ar gyfer Newid, meddygon a deintyddion a gyflogir yn y GIG a chontractwyr annibynnol. 

Rydym wedi derbyn argymhellion Corff Adolygu Cyflogau'r GIG a'r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2024-25. Mae hyn yn golygu y bydd staff y GIG ar gontractau Agenda ar gyfer Newid, meddygon a deintyddion yn cael dyfarniad cyflog uwch na chwyddiant, wedi'i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024.

Argymhellodd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG gynnydd o 5.5% ar gyfer pob band cyflog Agenda ar gyfer Newid. Mae staff a gyflogir ar y telerau ac amodau hyn yn cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Yn sgil derbyn yr argymhellion hyn, rydym wedi ymrwymo i:

  • Godi holl bwyntiau cyflog staff Agenda ar gyfer Newid 5.5% ar sail gyfunol, o 1 Ebrill 2024 ymlaen.
  • Ychwanegu pwyntiau cyflog canolraddol at Fandiau 8a ac uwch staff Agenda ar gyfer Newid ar ôl dwy flynedd.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sut i weithredu argymhellion y corff adolygu cyflogau o ran strwythurau cyflog Agenda ar gyfer Newid.

Gan gydnabod rôl Fforwm Partneriaeth Cymru, rydym yn derbyn mewn egwyddor yr ail argymhelliad ynghylch ychwanegu pwyntiau cyflog canolraddol at fandiau 8a ac uwch ond rydym yn gofyn i Fforwm Partneriaeth Cymru ei gadarnhau cyn iddo gael ei weithredu.

Argymhellodd y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion gynnydd o 6% i raddfeydd cyflog, ystodau cyflog ac elfennau cyflog contractau o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Argymhellodd hefyd y dylid ychwanegu £1,000 ychwanegol at bwyntiau cyflog meddygon a deintyddion dan hyfforddiant.

Yn sgil derbyn yr argymhellion hyn, rydym wedi ymrwymo i:

  • Godi pwyntiau cyflog meddygon a deintyddion dan hyfforddiant 6% ynghyd â £1,000 ychwanegol ar sail gyfunol.
  • Codi cyflogau ymgynghorwyr 6% ar sail gyfunol.
  • Codi graddfeydd cyflog meddygon arbenigol a meddygon arbenigol cyswllt ar bob contract 6% ar sail gyfunol.

Mae'r codiad cyflog o 6% a argymhellir ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn amodol ar newidiadau cyffredinol i gontractau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol a gwasanaethau deintyddol cyffredinol. 

Er nad yw o fewn cwmpas argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, rwyf am weld codiad cyflog teg a chymesur ar draws gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, optometreg y GIG a'r holl staff sy'n gweithio mewn timau practisau cyffredinol a thimau deintyddol. Mae hyn yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofal sylfaenol, a'i staff, yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl ledled Cymru. 

Yn unol â sefyllfa deintyddiaeth a gwasanaethau meddygol cyffredinol, bydd codiadau cyflog yn amodol ar sicrhau cynnydd cadarnhaol o ran trefniadau contractau sy'n hyrwyddo ein huchelgeisiau polisi a'n nodau strategol. 

Yn unol ag agenda'r llywodraeth ac yn rhan o fandadau diwygio contractau ehangach, bydd fy swyddogion yn trafod â chyrff cynrychiadol y codiad cyflog arfaethedig ar gyfer eleni.

Rwy'n gwerthfawrogi ac yn edmygu gwaith diflino ac ymroddiad yr holl staff sy'n gweithio yn y GIG, ac ar ei gyfer. Mae'r dyfarniad cyflog hwn yn cydnabod eu gwerth a'u cyfraniad i'r GIG yng Nghymru.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.