Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae'r Cynghorydd Hunt a’r Cynghorydd Medi (AS bellach) wedi arwain Panel sy'n adolygu'r berthynas rhwng trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a datblygiad economaidd.
Darparodd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig i sicrhau bod y cydweithio rhanbarthol presennol yn esblygu a bod yr adnoddau ychwanegol y mae strwythur corff corfforedig yn eu cynnig yn cael eu defnyddio. Mae cysoni datblygiad economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir yn y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhoi cyfle i gynghorau gronni adnoddau ac ystyried y cyd-ddibyniaethau rhwng y swyddogaethau hyn, a manteisio arnynt. Mae'n galluogi ein cynghorau i ddangos unwaith eto sut y gallant weithio gyda'i gilydd i sicrhau gwell canlyniadau ar draws eu rhanbarthau. Rydym yn falch o dderbyn eu hadroddiad sy'n cydnabod pwysigrwydd sut y gall pobl sy'n gweithio yn y tri maes hyn gyflawni amcanion cyffredin yn well ac, yn y pen draw, sicrhau mwy o ganlyniadau cydgysylltiedig ar lawr gwlad i gymunedau.
Mae argymhellion y Panel ynghylch cydweithio, cydgysylltu sgiliau, adnoddau a data a defnyddio dull seiliedig ar le i gyd yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion gan ddefnyddio'r camau a awgrymir gan y Panel. Gall yr argymhellion ein helpu i symud tuag at weithio rhanbarthol mwy llwyddiannus, gan gynnwys sut mae’r Cyd-bwyllgorau yn llunio Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a'u cynlluniau cyfatebol ym maes cynllunio defnydd tir, sef Cynlluniau Datblygu Strategol.
Byddwn yn cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Busnes Cymru drwy fanteisio ar ddulliau sy’n seiliedig ar le yn rhanbarthol. Mae hyn bendant yn wir lle y gellir llunio cynlluniau trafnidiaeth a dyletswyddau llesiant economaidd Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyda’i gilydd i helpu i lywio blaenoriaethau lleol a rhanbarthol er mwyn creu mwy o swyddi, a hybu buddsoddiad mewn busnesau a datblygiad busnesau mewn lleoedd penodol.
Mae'r Panel, a Llywodraeth Cymru, yn cydnabod bod adnoddau eisoes yn gyfyngedig ac o dan bwysau. Felly, rydym yn croesawu bod argymhellion y Panel yn ceisio helpu i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a blaenoriaethau yn hytrach nag ychwanegu at lwyth gwaith presennol.
Mae'r argymhellion yn amrywio o enillion cyflym i newidiadau hirdymor. Bydd ein swyddogion yn gweithio gyda'u cymheiriaid mewn awdurdodau lleol a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i'w rhoi ar waith.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Camau Gweithredu a Argymhellir gan Banel Hunt / Medi | Ymateb Llywodraeth Cymru |
---|---|
Cam gweithredu 1: Cael gwared â gweithio ar wahân gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar le | Rydym yn cytuno y gall Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig (a'u Hawdurdodau cyfansoddol) weithredu ar hyn.
Sefydlwyd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gefnogi awdurdodau lleol i fabwysiadu dull strategol a rhanbarthol mewn perthynas â datblygiad economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir, gan fanteisio ar y cyd-ddibyniaethau rhwng y meysydd hyn.
Rydym yn aildrefnu ac ailgyfeirio swyddogion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a staff Trafnidiaeth Cymru i gyd-fynd â'r trefniadau rhanbarthol i’w cefnogi yn y ffordd orau bosibl i gydweithio.
Drwy ein rhan ni yn y gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Cynaliadwy, Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol byddwn yn parhau i gefnogi a monitro'r gwaith hwn wrth i gynlluniau unigol gael eu datblygu.
Byddwn yn mabwysiadu dull sy’n fwy seiliedig ar le yn ein gweithgareddau datblygu economaidd, megis ar draws Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Busnes Cymru, drwy weithio’n rhanbarthol a defnyddio Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol/Cynlluniau Datblygu Strategol. |
Cam gweithredu 2: Gwella'r ffordd y mae pobl yn cael gwybod am y broses o lunio cynlluniau rhanbarthol ledled Cymru | Mae canllawiau statudol yn nodi'n glir pa mor bwysig yw hi fod penderfyniadau gwleidyddol o fewn y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu gwneud yng ngolwg y cyhoedd, gyda'r Cyd-bwyllgorau yn sicrhau bod eu dinasyddion yn cael gwybod am ddatblygiadau polisi ac yn cael cyfle i ymgynghori â nhw ar newidiadau polisi.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol i ystyried sut y gellir cefnogi'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gyflawni hyn yn ddigidol. |
Cam gweithredu 3: Datblygu sgiliau a chynllunio adnoddau tymor hir | Mae’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn sicrhau bod y cydweithio rhanbarthol presennol yn esblygu mewn strwythur corfforedig ac yn darparu cyfleoedd i rannu neu gyfuno adnoddau, megis staff sydd â sgiliau a gwybodaeth brin.
Mae'r diffyg adnoddau yn y system gynllunio gyfan, sy'n cynnwys awdurdodau lleol ac ymgyngoreion statudol, wedi bodoli am flynyddoedd lawer. Dim ond hyn a hyn o atebion cyflym sydd ar gael ac rydym yn llwyr sylweddoli'r sefyllfa. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi swyddi a thwf gwyrdd fel blaenoriaeth - cyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru.
Rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i fynd i'r afael â’r mater o ran y piblinell o gynllunwyr proffesiynol ac archwilio opsiynau i gynyddu cyfleoedd i bobl hyfforddi fel cynllunwyr. Rydym hefyd wedi nodi ein dyheadau i sicrhau bod y system gynllunio yn gweithredu ar sail adennill costau llawn a bod yr incwm a gynhyrchir drwy'r system yn cael ei gadw ar gyfer recriwtio staff ychwanegol. Mae disgwyl i ymgynghoriad ar adnoddau’r system gynllunio gael ei lansio yn nes ymlaen eleni.
|
Cam gweithredu 4: Nodyn Cyngor Technegol 18 (Trafnidiaeth) | Rydym yn cytuno bod yr argymhelliad hwn a'r gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru'r Nodyn Cyngor i sicrhau bod cydweithio yn digwydd yn y ffordd orau. |
Cam gweithredu 5: Creu 'llyfr chwarae' o arferion gorau a dulliau ar gyfer datblygu sy’n seiliedig ar le | Rydym yn cefnogi'r nod o rannu arferion gorau ar ddatblygu sy'n seiliedig ar le. Mae Comisiwn Dylunio Cymru, fel corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, eisoes yn gwneud gwaith ardderchog ar hyn ar gyfer trawstoriad amrywiol o randdeiliaid. Byddwn yn gweithio gyda Comisiwn Dylunio Cymru i ystyried sut y gellid mynd â hyn ymhellach.
|
Cam gweithredu 6: Rhannu data gyda model trafnidiaeth-gymdeithasol cenedlaethol | Rydym yn cefnogi egwyddor argymhelliad y Panel i fireinio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau drwy waith modelu deallus. Rydym hefyd yn cydnabod y gallai dulliau amgen o fodelu trafnidiaeth traddodiadol fod yn fwy addas ar gyfer rhai mathau o ymyriadau trafnidiaeth a newid ymddygiad. Rydym wedi creu Uned o fewn Trafnidiaeth Cymru sy'n gallu helpu Awdurdodau Cymru i fodelu trafnidiaeth, gan gyflwyno cysondeb, gwell ansawdd a chostau llai drwy gynnal y modelau trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r Uned hon yn gyfrifol am ddod o hyd i ffyrdd o wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, sy'n cynnwys nodi'r setiau data a'r technegau modelu diweddaraf. Bydd yr Uned hon yn ystyried ymarferoldeb modelu trafnidiaeth yng Nghymru gan gynnwys modelau trafnidiaeth cenedlaethol sy’n ystyried ffactorau cymdeithasol, gan weithio gydag arbenigwyr allanol lle bo angen, i barhau i ddarparu gwasanaeth perthnasol ac effeithlon o ansawdd uchel i awdurdodau. |
Cam gweithredu 7: Cysoni'r ffordd y caiff cynlluniau eu llunio ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol | Rydym yn cytuno ar yr egwyddor o gysoni cynlluniau trafnidiaeth a defnydd tir o ystyried eu cyd-ddibyniaethau clir. Yn ogystal ag annog mwy o gydweithio rhwng timau wrth baratoi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyntaf ac yna'r Cynllun Datblygu Strategol, byddwn yn pwyso i gysoni'r Cynlluniau hyn ymhellach yn eu hiteriad nesaf yn ogystal â chymryd golwg tymor hwy i ystyried gweithio tuag at gynlluniau unigol.
Mae'r gydymffurfiaeth rhwng graddfa genedlaethol, ranbarthol a lleol cynlluniau datblygu yn hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel briodol a bod dull cyfannol yn cael ei ddefnyddio.
Mae Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol yn nodi templed ar gyfer cydweithio, gan nodi'n glir sut y dylai'r haen Ranbarthol o Gynlluniau Datblygu Strategol ymwneud â blaenoriaethau cenedlaethol.
|
Cam gweithredu 8: Paratoi strategaethau ystadau yn seiliedig ar le ar lefel ranbarthol | Mae gennym gam gweithredu yn ein datganiad sefyllfa Canol Trefi i weithio ar draws y llywodraeth i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer lleoli a/neu adleoli amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus i ganol trefi, gyda chefnogaeth strategaethau rheoli asedau priodol a strwythurau llywodraethu cysylltiedig cyrff gwasanaethau cyhoeddus.
Drwy Ystadau Cymru, rydym eisoes yn annog rhagoriaeth o ran rheoli ystadau sector cyhoeddus Cymru yn weithredol drwy gydweithio strategol a dilyn canllawiau arfer da. Mae ystadau cyhoeddus yn rhesymoli eu hystadau yn dilyn y pandemig a'r symudiad i weithio'n fwy hybrid.
Byddwn yn cynnal arolwg i helpu i sefydlu gwell dealltwriaeth o gynlluniau rhesymoli ystadau darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i helpu i lywio trafodaethau ar fwy o gydleoli.
|
Cam gweithredu 9: Datblygu strategaeth cyllido datblygiadau strategol | Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Fel rhan o'r dull hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellir dyrannu cyllid i ranbarthau mewn ffordd fwy strategol, gan gynnwys archwilio cyfleoedd i ddatganoli mwy o bwerau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a'u defnyddio fel ffocws ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol. |