Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ac anghymesur ar iechyd a lles pobl o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac ar draws y DU. Maen nhw wedi profi lefelau uwch o salwch ac, yn drist iawn, mae’r marwolaethau wedi bod yn uwch nag ymhlith pobl wyn.

Rydym yn parhau i ddysgu mwy am y coronafeirws gyda phob wythnos a mis sy’n pasio, gan gynnwys pam mae pobl o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu risg uwch. Mae gwaith Grŵp Cynghorol BAME ar Covid-19, a arweiniwyd gan y Barnwr Ray Singh, a’i ddau is-grŵp a gadeiriwyd gan yr Athro Keshav Singhal a’r Athro Emmanuel Ogbonna, wedi ein helpu yn ein dealltwriaeth.

Yn sgil gwaith grŵp yr Athro Singhal, a ymchwiliodd i’r risg uniongyrchol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig, datblygwyd yr adnodd hunanasesu risg dau gam. Mae hwn bellach yn cael ei ddefnyddio’n helaeth o fewn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn helpu i ddiogelu iechyd a lles pobl.

Roedd grŵp yr Athro Ogbonna yn ystyried y ffactorau economaidd-gymdeithasol a gyfrannodd at yr effaith anghymesur. Roedd ei adroddiad yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau cynhenid a brofir gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac y mae Covid-19 wedi tynnu sylw atynt yn y ffyrdd mwyaf trasig, ac yn wir sy’n creu pryder.

Rwyf am gofnodi unwaith eto fy niolch i’r Athro Ogbanna a’r is-grŵp economaidd-gymdeithasol am ymgymryd â’r gwaith hwn o dan bwysau aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad heriol a difrifol hwn.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymateb manwl i argymhellion lawer yr adroddiad. https://llyw.cymru/adroddiad-grwp-economaidd-gymdeithasol-bame-covid-19-ymateb-llywodraeth-cymru

Bydd yr argymhellion o’r adroddiad hwn yn rhan annatod o’n Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru sy’n prysur ddod ynghyd. Rwy’n ddiolchgar bod yr Athro Ogbonna wedi cytuno i barhau i’n cefnogi drwy gydgadeirio Grŵp Llywio’r gwaith hwn, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol.

Fodd bynnag, nid ydym am aros am gynllun i ddweud wrthym beth i’w wneud. Rydym yn cadarnhau o’r newydd ein hymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb; rhan yn unig o’n gwaith i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw ein hymateb heddiw.

Mae adroddiad yr Athro Ogbonna yn un sobreiddiol a phwerus – mae’n sôn am brofiadau go iawn o hiliaeth, ac am ddiwylliant o wahaniaethu hiliol ac anghydraddoldebau strwythurol sydd i’w gweld yng Nghymru heddiw. Byddwn yn defnyddio’r profiadau a’r dystiolaeth sydd ynddo – yn enwedig yr hyn a welwyd yn ystod y pandemig – fel sail i’n gwaith wrth inni geisio sefydlu’r newidiadau systemig ar raddfa eang sydd eu hangen er mwyn creu’r Gymru gyfartal y mae pob un ohonom am fod yn rhan ohoni.

Mae’r gwaith caled a’r angerdd a ddangoswyd gan aelodau’r is-grŵp wedi bod yn hollbwysig er mwyn cyrraedd lle rydym heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd modd inni barhau i alw ar y grŵp am eu cefnogaeth wrth inni symud y gwaith hwn yn ei flaen tuag at ein huchelgais ar gyfer Cymru gyfartal, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.