Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff plant sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yng Nghymru, ac sydd angen gofal mewnol ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl, eu lleoli mewn unedau priodol yn Lloegr. Mae'r unedau hyn yn ddarostyngedig i'r Fframwaith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl diogel ac allan o ardal ar gyfer plant a'r glasoed sy'n gleifion mewnol, sy'n monitro’n benodol y defnydd o ataliaeth ac arferion cyfyngol eraill, a’i atgyfnerthu gan archwiliadau rheolaidd.

Yn sgil y canfyddiadau yn adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr, dwi’n cyfarwyddo yr Uned Genedlaethol ar Gomisiynu Cydweithredol (NCCU), sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau ansawdd darparwyr y Fframwaith Cenedlaethol, i fynd ati ar frys i edrych gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol cyfrifol pa mor briodol yw’r achosion o leoli plant sydd ag awtistiaeth neu anableddau dysgu mewn ysbytai yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawslywodraethol ac amlasiantaethol i ddatblygu canllawiau cenedlaethol, sef Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol. Bwriad y fframwaith yw ceisio annog llai o ddefnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg ar gyfer plant ac oedolion. Caiff yr amrywiol arferion cyfyngol eu henwi a'u cydnabod yn y fframwaith, gan gynnwys ataliaeth gorfforol, neilltuaeth a thawelyddu. Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu yn unol â Fframwaith Ataliaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Mawrth 2019). Caiff canllawiau drafft eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn haf 2019.

Mae Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o gamau âImage removed. blaenoriaeth i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu, a'u teuluoedd.  Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau ymyrraeth gynnar, cynyddu'r defnydd o gymorth ar gyfer ymddygiad yn seiliedig ar dystiolaeth ac adolygiad llawn o'r holl wasanaethau anableddau dysgu yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc.

Byddaf yn rhoi diweddariad ar ôl i'r Uned Genedlaethol ar Gomisiynu Cydweithredol gwblhau ei hadolygiad.