Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r comisiynydd wedi'i wneud, ac argymhellion yr adroddiad, sy'n darparu tystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi addysg heblaw yn yr ysgol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn cael addysg lawn sydd o ansawdd uchel ac sy'n addas i'w hanghenion.
Roeddwn yn falch o ddarllen bod yr holl blant a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn gwerthfawrogi'r addysg a'r gweithgareddau a ddarparwyd tra oeddent yn cael eu trin yn yr ysbyty, a bod yna enghreifftiau o arferion da wrth drefnu addysg yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae'n siomedig darllen nad yw arferion o'r fath yn gyffredin ar draws pob awdurdod lleol.
Er y byddem yn disgwyl rhywfaint o amrywiaeth yn yr addysg a ddarperir y tu allan i'r ysgol rhwng un awdurdod lleol a'r llall, mae'n amlwg yn annerbyniol mai ychydig iawn o addysg sydd ar gael i rai plant tra byddant yn yr ysbyty, os o gwbl.
Rwyf wedi nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y comisiynydd. Mae hyn yn cynnwys diweddaru canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd i nodi'r dyletswyddau a osodir ar ysgolion ac awdurdodau lleol o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae hyn hefyd yn tanlinellu fy nisgwyliad bod pob plentyn na all fynychu'r ysgol yn derbyn addysg lawn amser, oni bai nad dyma sy'n sicrhau eu lles pennaf.
Rydym hefyd yn datblygu canllawiau atgyfeirio a chomisiynu i gefnogi awdurdodau lleol i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg heblaw yn yr ysgol sydd o ansawdd uchel, i gefnogi anghenion plant nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol.