Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fe ŵyr yr Aelodau o ganlyniad i sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am lythyr, dyddiedig 10 Mawrth, gan Archesgob Westminster ac Archesgob Southwark a anfonwyd, ynghyd â gohebiaeth gysylltiedig arall, i bob ysgol uwchradd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr drwy law Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig.

Ym mis Mawrth 2012 dechreuodd Llywodraeth Glymblaid y DU ymgynghori ynghylch newidiadau arfaethedig i’r diffiniad cyfreithiol o briodas a fyddai’n rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw briodi.  Roedd llythyr yr Archesgobion yn nodi gweledigaeth yr Eglwys Gatholig o briodas, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng gŵr a gwraig. Mewn e-bost esboniadol, gofynnwyd i benaethiaid ysgolion ystyried gofyn i’w staff a’u disgyblion feddwl a oeddent am lofnodi deiseb ar-lein gan sefydliad o’r enw 'y Gynghrair o blaid Priodas’ (the Coalition for Marriage) sy’n cefnogi’r diffiniad presennol o briodas. Mae gwefan y ddeiseb yn datgan yn glir mai dim ond pobl 16 oed neu’n hŷn sydd â hawl i lofnodi’r ddeiseb. Gofynnwyd hefyd i’r penaethiaid ystyried darllen y llythyr i’r disgyblion a’r staff yn eu gwasanaethau ysgol neu drefnu iddo gael ei ddefnyddio mewn gwersi perthnasol. Mae’n anffodus nad oedd yr e-bost gwreiddiol ar 10 Mawrth yn datgan yn glir taw dim ond pobl dros 16 oed ddylai lofnodi’r ddeiseb ar-lein, ac rwy’n falch bod Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig wedi egluro hyn bellach.


Yn dilyn y sylw yn y cyfryngau, gofynnais am gyngor gan fy swyddogion ynghylch a oedd yma unrhyw dordyletswydd posibl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu dordyletswydd yn ymwneud â didueddrwydd gwleidyddol o dan Ddeddf Addysg 1996.

Mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan mai’r cyfan a wnaeth llythyr yr Archesgobion oedd datgan cefnogaeth i’r syniad o ddiogelu’r sefyllfa gyfreithiol bresennol heb wneud datganiadau homoffobig, cefais fy nghynghori yw nad yw’r ohebiaeth na gweithredoedd cysylltiedig Cyngor Addysg yr Eglwys Gatholig yn tramgwyddo yn erbyn y Ddeddf. Er bod gan ysgolion rwydd hynt i ddefnyddio’r deunyddiau hyn fel yr awgrymir, mae arnynt ddyletswydd i wneud hynny mewn modd cytbwys.

Mae’r darpariaethau yn Neddf Addysg 1996 ynghylch addysgu gwleidyddol mewn ysgolion yn berthnasol hefyd. O dan Adran 406 o Ddeddf 1996, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu wahardd gweithgareddau gwleidyddol sy’n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol penodol gan unrhyw ddisgybl cofrestredig sydd o dan 12 oed a gwahardd hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol sy’n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol penodol wrth addysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol.  Mae Adran 407 o Ddeddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gymryd y camau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau cydbwysedd rhwng safbwyntiau gwrthwynebus wrth gyflwyno materion gwleidyddol i ddisgyblion. Er nad yw’r ddeiseb ar-lein yn uniongyrchol gysylltiedig â phlaid wleidyddol, gellid ystyried ei bod yn ymwneud â materion gwleidyddol yn gyffredinol, gan mai bwriad y ddeiseb yw lobïo Llywodraeth bresennol San Steffan i atal newid yn y gyfraith. Gellid ystyried bod gwrthwynebu newid arfaethedig yn y ddeddf yn weithred wleidyddol yn ei hunan.

O ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at bob ysgol uwchradd Gatholig yng Nghymru er mwyn atgoffa penaethiaid a chyrff llywodraethu o’u dyletswydd a’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf 1996 yn benodol. Rwyf wedi gofyn iddynt sicrhau bod unrhyw ddisgyblion sydd wedi cael gwybod am y llythyr yn cael clywed y farn gyferbyniol hefyd er mwyn iddynt gael persbectif cytbwys ar y mater. Mae copi o’r llythyr hwn ynghlwm er gwybodaeth i’r Aelodau.

Byddaf yn rhoi gwybod i’r aelodau os bydd unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â’r mater hwn.