Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod wedi gwneud fy mhenderfyniad ynghylch cynigion Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer safonau mewn perthynas â'r Gymraeg.
Ar 16 Mai 2012 lansiodd Comisiynydd y Gymraeg ymgynghoriad anstatudol ynghylch ei chynigion ar gyfer safonau mewn perthynas â'r Gymraeg. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Awst 2012. Derbyniais ei hadroddiad yn dilyn ei hymgynghoriad ar 28 Tachwedd 2012.
Mae'r gwaith a wnaed gan y Comisiynydd wedi bod yn ddefnyddiol ac yn adeiladol ac mae wedi datblygu'r drafodaeth ynghylch y safonau. Mae ei hymgynghoriad wedi agor y ddadl ynghylch y ffordd orau o bennu'r safonau y bydd disgwyl i sefydliadau gydymffurfio â hwy ac mae ei chyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol wedi codi proffil y Mesur a'r iaith - gan gynnwys o fewn cymunedau newydd o randdeiliaid.
Rwyf wedi ystyried dogfen ymgynghori'r Comisiynydd yn ofalus a hefyd wedi ystyried yn fanwl a roi sylw dyladwy i’w chyngor i mi a'i safonau arfaethedig. Mae'r Llywodraeth yn gwbl gefnogol i'r egwyddor a bennir yn y Mesur, ac a adlewyrchir yn safonau arfaethedig y Comisiynydd, sef na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cydnabod, fel wnaeth y Cynulliad, fod angen i unrhyw ddyletswyddau yn ymwneud â'r Gymraeg a gaiff eu gosod ar sefydliadau fod yn rhesymol ac yn gymesur.
Rwyf wedi rhoi gwybod i Gomisiynydd y Gymraeg, fodd bynnag, na allaf symud ymlaen â'i chynigion fel y maent ar hyn o bryd. Deuthum i'r penderfyniad hwn am sawl rheswm, gan gynnwys fy mhryder fod y model a gynigir gan y Comisiynydd yn rhy gymhleth ac na fyddai'n fy ngalluogi i osod gerbron y Cynulliad Asesiad Effaith Rheoleiddiol a fyddai'n rhoi darlun clir o effaith y safonau ar bersonau a fyddai'n ddarostyngedig i ddyletswyddau yn ymwneud â'r Gymraeg. Credaf hefyd na fydd safonau arfaethedig y Comisiynydd, nac ychwaith y model a gynigir gan y Comisiynydd ar gyfer gosod safonau, yn cyflawni'r nod polisi sy’n gyffredin i ni sef rhoi hawliau ieithyddol clir i ddinasyddion. Fy mhryder olaf yw nad yw'r amserlenni tebygol yn rhoi ystyriaeth ddigonol i bwysigrwydd yr angen i gyflwyno safonau mewn perthynas â'r Gymraeg cyn gynted â phosibl.
Caiff y rhesymau llawn am fy mhenderfyniad eu nodi mewn llythyr yr wyf wedi'i anfon at y Comisiynydd, dyddiedig 25 Chwefror 2013.
Rwy'n bwriadu datblygu cyfres o safonau, gan adeiladu ar ymgynghoriad y Comisiynydd, a fydd yn bodloni'r nodau polisi a adlewyrchir yn y Mesur a'r ymrwymiadau a wnaed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn sefydlu hawliau ieithyddol ar gyfer dinasyddion. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos â Chomisiynydd y Gymraeg wrth wneud hyn.
Mae’r camau y bydd angen i mi eu cymryd er mwyn datblygu’r safonau yn cynnwys:
- datblygu cyfres ddiwygiedig o safonau ar gyfer ymgynghori;
- cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r cyhoedd a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt gan y safonau;
- ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad, paratoi rheoliadau ar gyfer gwneud y safonau, ynghyd â rheoliadau fydd yn gwneud y safonau hynny’n benodol gymwys i bersonau, i’w cymeradwyo gan y Cynulliad; a
- paratoi asesiad effaith rheoleiddiol i’w gyflwyno i’r Cynulliad ynghyd â’r rheoliadau.
Rwy’n amcangyfrif y bydd modd gwneud y rheoliadau i wneud y safonau, ynghyd â’r rheoliadau i wneud y safonau’n benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.