Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad am ei ymateb deddfwriaethol i bandemig coronafeirws. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Medi 2021 a 31 Mawrth 2022 ac mae'n cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r coronafeirws a wnaed gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan yn ystod y cyfnod hwn, nid dim ond deddfwriaeth sy'n deillio o Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Deddfwriaeth pandemig y coronafeirws: 1 Medi 2021 hyd 31 Mawrth 2022