Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dyma fy ymateb cychwynnol i Archwiliad annibynnol yr Athro Iram Siraj o’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 19 Mai 2014 ac sy'n cynnwys 23 o argymhellion i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys: penodi grŵp strategol o arbenigwyr Cyfnod Sylfaen o bob rhan o Gymru i ddyfeisio cynllun 10 mlynedd i gefnogi’r broses o weithredu a chydgrynhoi’r Cyfnod Sylfaen; datblygu proses arolygu ar y cyd rhwng Estyn ac AGGCC ar draws grŵp 3-7 oed y Cyfnod Sylfaen i sicrhau bod modd cymharu ansawdd lleoliadau nas cynhelir ac a gynhelir; ailystyried y broses o sgorio asesiadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 2) a’r meysydd a asesir ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 6); datblygu fframwaith datblygu ac asesu blynyddoedd cynnar a gweithredu proffil asesu; diwygio’r gymhareb oedolion i blant (ar gyfer plant 4 oed) mewn dosbarthiadau derbyn o 1:8 i 1:10 ac, yn hollbwysig, defnyddio arian a gaiff ei arbed yn y broses i wella a buddsoddi mewn hyfforddiant i’r gweithlu; cynyddu amser athrawon ymgynghorol mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen nas cynhelir o 10%; ei gwneud yn orfodol i athro cymwys arwain yr ymarfer ym mhob
dosbarth Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys dosbarthiadau meithrin; a nifer o argymhellion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â hyfforddi athrawon ac ymarferwyr o fewn y Cyfnod Sylfaen. Mae hyn yn adlewyrchu’r ddealltwriaeth mai drwy wella ansawdd addysgu yr ydym yn debygol o weld plant yn cyflawni mwy, yn hytrach na thrwy ganolbwyntio ar newidiadau strwythurol.
Pan gyhoeddwyd adroddiad yr Archwiliad o’r Cyfnod Sylfaen, croesewais argymhelliad yr Athro Siraj am gynllun strategol deng mlynedd i gefnogi’r camau nesaf yn y broses o weithredu a chydgrynhoi’r Cyfnod Sylfaen ledled Cymru. Rwy’n falch o gael nodi ein bod wedi dechrau trafod gyda’r prif randdeiliaid ac rwy’n edrych ymlaen i gyhoeddi grŵp strategol i ddatblygu’r gwaith hirdymor hwn ar y Cyfnod Sylfaen yn yr hydref.
Rwy’n benderfynol o sicrhau bod cwricwlwm Cyfnod Sylfaen o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr yng Nghymru a bod eu haddysg yn brofiad cadarnhaol iddynt o’r cychwyn cyntaf. Roedd sylwadau’r Athro Siraj am sut y gallwn wella sgiliau’r gweithlu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr addysg orau bosibl yn y blynyddoedd cynnar yn ddiddorol i mi. Rwy’n falch o gael cyhoeddi y caiff yr argymhellion o ran y gweithlu eu cynnwys fel rhan o ymgynghoriad ar y Cynllun Deng Mlynedd ar gyfer Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yn nes ymlaen yn y mis. Gallai’r argymhellion o ran cymwysterau gael eu gweld fel rhywbeth heriol ar gyfer y sector, ond maent yn cyd-fynd yn agos â’n cyfeiriad polisi cyfredol a’n dyheadau i wella ansawdd gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar. Bydd yr ymgynghoriad â’r gweithlu, gweithlu pwysig iawn yng Nghymru, yn ein helpu i ystyried beth yw’r llwybr iawn mewn perthynas â lefelau cymwysterau, dewis graddedigion ar gyfer rolau arwain a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae’r Archwiliad yn awgrymu y gellir cynyddu’r gymhareb oedolion i blant o 1:8 i 1:10 mewn dosbarthiadau derbyn heb i hynny amharu ar ansawdd. Mae’r adroddiad yn nodi mai ansawdd y cysylltiad rhwng plant ac oedolion sy’n bwysig, os yw’r staff yn gymwys ac yn wybodus, yn hytrach na nifer yr oedolion. Bydd hyn hefyd yn destun ymgynghoriad fel rhan o’r Cynllun Deng Mlynedd ar gyfer Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, a bydd angen i unrhyw ddull a weithredir fod yn gymesur, ar ôl astudio a gwerthuso’r costau a’r goblygiadau i gyd yn fanwl.
Mae’r Archwiliad wedi argymell hefyd trefnu proses arolygu ar y cyd sy’n cynnwys y ddwy arolygiaeth ar draws grŵp oedran 3-7 y Cyfnod Sylfaen. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd trefniadau rheoleiddio ac arolygu effeithiol sy’n hyrwyddo gwelliannau o ran gofal, dysg a lles plant. Mae nifer o ffyrdd o gyflawni hyn. Rwy’n falch bod yr arolygiaethau, AGGCC ac Estyn, eisoes yn cydweithio o fewn y systemau presennol, i ddatblygu a threialu fframwaith arolygu ar y cyd mewn lleoliadau gofal a reoleiddir nas cynhelir, sydd hefyd yn rhoi addysg gynnar i blant (cyn oedran ysgol gorfodol lle mae eu swyddogaethau arolygu a rheoleiddio yn gorfyffwrdd ar hyn o bryd). Bydd cydgysylltu’r fframweithiau arolygu presennol hyn yn helpu i wella ansawdd gofal ac addysg y lleoliadau hyn. Bydd hyn yn help wrth ystyried yr argymhelliad ar gyfer proses arolygu ar y cyd ar gyfer gofal plant ac addysg y grŵp 3-7 oed ar draws ysgolion a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir.
O ran yr argymhellion eraill a gyflwynwyd gan yr Archwiliad o’r Cyfnod Sylfaen, bydd angen i ni ystyried y rhain ochr yn ochr â chanlyniadau'r gwerthusiadau o'r Cyfnod Sylfaen a Dechrau'n Deg, yr Adolygiad o'r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu ac adolygiadau eraill sy'n mynd rhagddynt. Gyda'i gilydd, bwriedir i'r canfyddiadau hyn ddarparu sail dystiolaeth eang i lywio camau i ddatblygu polisi yn y dyfodol, gwella ansawdd a chodi safonau ar draws gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru.
Byddaf yn ymateb yn llawn i Archwiliad yr Athro Siraj o’r Cyfnod Sylfaen unwaith yr adroddir ar werthusiadau ac adolygiadau eraill sy'n mynd rhagddynt. Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd ddechrau gwanwyn 2015. Yn y cyfamser, bydd ein harolygiaethau, sef AGGCC ac Estyn, yn cydweithio mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir. Mae'n bwysig cofio ein bod hefyd yn gwneud cynnydd cynnar drwy ymgynghori ar yr argymhellion o ran gweithlu'r sector drwy'r Cynllun Deng Mlynedd ar gyfer Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yr ymgynghorir ar dydd Llun 22 Medi 2014.