Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dyma'n hymateb cychwynnol i adroddiad yr Adolygiad annibynnol o gofrestru, rheoleiddio ac arolygu gofal plant ac addysg gynnar (Adolygiad Graham) a gyhoeddwyd ar 15 Awst 2014 ac sy'n cynnwys 22 o argymhellion i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru.  

Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys: datblygu fframwaith ansawdd sengl yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ar gyfer y grŵp oedran 0-7 ar draws gofal plant a'r Cyfnod Sylfaen; dull unedig o arolygu ar gyfer y grŵp oedran 0-7 ym mhob lleoliad (gofal plant a'r Cyfnod Sylfaen); cynigion ar gyfer cydweithredu ar draws Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol; nifer o argymhellion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â lefelau cymwysterau ymarferwyr o fewn y gweithlu gofal plant, Dechrau'n Deg a Chyfnod Sylfaen; datblygu adnodd asesu blynyddoedd cynnar “am ddim” i'w ddefnyddio ar draws galwedigaethau, lleoliadau, asiantaethau a sectorau; a rheoleiddio gofal plant sy'n gweithredu am lai na dwy awr neu i blant dros wyth oed.  

Rydym yn cydnabod bod y gweithlu'n allweddol i ddatblygiad y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn y dyfodol.  Gwnaethom ddechrau deialog agored gyda rhanddeiliaid allweddol dros yr haf mewn perthynas â'r argymhellion ynglŷn â'r gweithlu yn adroddiad yr Adolygiad, gan ein galluogi i'w cynnwys yn y cynigion ar gyfer Cynllun Deng Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yr ymgynghorir yn ei gylch yn hwyrach y mis hwn.  Mae'r argymhellion o ran cymwysterau yn rhai heriol i'r sector, ond maent yn cyd-fynd yn agos â'n cyfeiriad polisi a'n dyheadau cyfredol i wella ansawdd gofal plant ac addysg gynnar.  Bydd yr ymgynghoriad ar y gweithlu sydd i ddod yn helpu i brofi'r dull cywir o ymdrin â'r gweithlu pwysig hwn yng Nghymru mewn perthynas â lefelau cymwysterau gofynnol, arweinyddiaeth graddedigion a datblygiad proffesiynol parhaus.  Rydym yn falch ein bod yn gallu ymateb yn gyflym i argymhellion yr Adolygiad hwn fel rhan o'r ymgynghoriad ar y gweithlu ehangach.  

Efallai mai argymhelliad pwysicaf yr Adolygiad yw'r galwad am “fframwaith ansawdd sengl ar draws gofal plentyndod cynnar ac addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar (grŵp 0-7 oed)” - a fyddai'n cynnwys gofal plant ac addysg y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau.  Rydym eisoes yn datblygu Fframwaith Datblygu ac Asesu'r Blynyddoedd Cynnar ac er ein bod yn gweld y rhesymeg dros y fframwaith ansawdd sengl hwn, bydd yn rhaid ei ystyried yn fanwl a chynnal trafodaethau gyda rhanddeiliad yn ogystal ag ystyried y goblygiadau deddfwriaethol posibl.  

Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig bod trefniadau rheoleiddio ac arolygu effeithiol ar waith a fydd yn llywio gwelliannau yng nghanlyniadau gofal, dysgu a lles plant.  Mae'r Adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar gyfer system arolygu sengl ar gyfer darpariaeth gofal plant (0-8 oed) ac addysg yn y Cyfnod Sylfaen (3-7 oed).  Mae nifer o ffyrdd y gellir gwireddu hyn.   Rydym yn falch bod arolygiaethau AGGCC ac Estyn eisoes yn cydweithio o fewn y systemau presennol, i ddatblygu a phrofi fframwaith arolygu ar y cyd mewn lleoliadau gofal rheoleiddiedig nas cynhelir sydd hefyd yn darparu addysg gynnar ar gyfer plant (cyn oedran ysgol gorfodol, lle mae eu swyddogaethau arolygu a rheoleiddio yn gorgyffwrdd ar hyn o bryd).  Bydd gwell cysondeb rhwng y fframweithiau arolygu presennol hyn yn helpu i wella ansawdd gofal ac addysg yn y lleoedd hyn. Bydd y model arolygu ar y cyd hwn o gymorth wrth ystyried yr argymhelliad ar gyfer arolygiaeth/arolygiad unedig i arolygu gofal plant ac addysg y grŵp oedran 0-7 mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir.

Mae'r Adolygiad hefyd yn argymell bod pob darpariaeth gofal plant sy'n gweithredu am lai na dwy awr neu i blant dros wyth oed yn cael ei chofrestru a'i harolygu er mwyn diogelu plant a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth. Rhoddir ystyriaeth i b'un a ddylid ymestyn y system gyfredol.  Cynhelir ymgynghoriad mewn perthynas â hyn a bydd rhaid i unrhyw ddull gweithredu fod yn gymesur, gyda'r holl gostau a goblygiadau wedi eu harchwilio a'u gwerthuso'n glir.

O ran yr argymhellion eraill a gyflwynwyd gan yr Adolygiad, bydd angen i ni ystyried y rhain ochr yn ochr â chanlyniadau'r gwerthusiadau o'r Cyfnod Sylfaen a Dechrau'n Deg, yr Adolygiad o'r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu ac adolygiadau eraill sy'n mynd rhagddynt.  Gyda'i gilydd, bwriedir i'r canfyddiadau hyn ddarparu sail dystiolaeth eang i lywio camau i ddatblygu polisi yn y dyfodol, gwella ansawdd a chodi safonau ar draws gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru.

Byddwn yn ymateb yn llawn i Adolygiad yr Athro Graham unwaith yr adroddir ar werthusiadau ac adolygiadau eraill sy'n mynd rhagddynt.  Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd ar ddechrau gwanwyn 2015.  Yn y cyfamser, rydym yn falch y bydd ein harolygiaethau, sef AGGCC ac Estyn, yn cydweithio mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen nas cynhelir.  Mae'n bwysig cofio ein bod hefyd yn gwneud cynnydd cynnar drwy ymgynghori ar yr argymhellion o ran gweithlu'r sector drwy'r Cynllun Deng Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yr ymgynghorir ar dydd Llun 22 Medi 2014.