Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Daeth ymgynghoriad deuddeg wythnos i holi barn pobl am y newidiadau i gofresru gofal plant yng Nghymru i ben ar 5 Mehefin 2015.  Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys nifer o faterion sy’n gysylltiedig â chofrestru gofal plant, a chafwyd dros 130 o ymatebion.  

Mae crynodeb o’r rhain ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r holl faterion a godwyd yn cael eu cyhoeddi ddiwedd yr hydref.  Fodd bynnag, gallaf gyhoeddi un heddiw.  

Roedd y prif ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth ar draws ystod eang o’r sector gofal plant    i ymestyn y cofrestru i blant 8 oed a throsodd, felly o’r 1 Ebrill 2016, bydd y terfyn oedran uchaf ar gyfer cofrestru gofal plant yn cael ei ymestyn o 8 i 12 oed.  Dyma’r terfyn oedran uchaf y mae’r rhan fwyaf o rieni yn defnyddio gofal plant ffurfiol.  

Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod y system gofrestru yng Nghymru yn gyson â rhannau eraill y DU, yn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r cynllun Gofal Plant Di-dreth newydd yn 2017, ac yn helpu i leihau’r risg o gynnwys gweithgareddau cymorth ieuenctid eraill o fewn cwmpas cofrestru gofal plant.

Cafwyd nifer o sylwadau mwy amrywiol ynghylch y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.  Byddaf yn ystyried rhain yn fanylach, ac yn gwneud cyhoeddiad pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan gyhoeddir yr ymateb llawn i’r ymgynghoriad.

Bydd AGGCC hefyd yn cysylltu â darparwyr ar y gofrestr gofal plant i’w hysbysu o’r newidiadau hyn ac o gyflwyno’r fframwaith arolygu newydd.  Bydd AGGCC yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cenedlaethol yn hwyrach yn yr hydref i drafod eu cynlluniau i weithredu’r trefniadau newydd hyn o fis Ebrill 2016.  Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd AGGCC yn gwneud newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol i adlewyrchu’r newid yn y terfyn oedran uchaf.

Byddaf yn parhau i hysbysu’r aelodau o hyn a materion eraill sy’n deillio o’r Ymgynghoriad.