Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad y datganiad hwn yn wreiddiol oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith arbenigol y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Cyflwynodd y grŵp ei ail adroddiad a'r un mwyaf cynhwysfawr ychydig dros wythnos yn ôl yn nodi'r fframwaith o bolisïau, dulliau gweithredu a chynlluniau sydd eu hangen i gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa 'COVID-19' sy'n symud yn gyflym yn mynnu ein holl sylw ac ymateb ar unwaith. Yr angen i ganolbwyntio ar bolisïau hirdymor ac atal yw ein huchelgais o hyd ond, fel yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno, rhaid inni gymryd camau ar unwaith ac yn uniongyrchol i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn wyneb pandemig COVID-19.

Er fy mod yn hapus iawn i dderbyn mewn egwyddor holl argymhellion y grŵp gweithredu, nid wyf yn credu y byddai'n iawn canolbwyntio ar y manylion o ran sut y gallem ymateb iddynt ar hyn o bryd. Yn hytrach raid inni ganolbwyntio ein sylw a'n hadnoddau ar y camau sydd eu hangen i gefnogi'r rhai sy’n ddigartref ar hyn o bryd neu sy'n cysgu allan yn wyneb bygythiad COVID-19.

Yn erbyn cefndir o sefyllfa sy'n newid yn gyflym, rydym yn gweithio’n ddi-oed ar draws llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach i roi mesurau brys ar waith. Mae'n iawn fod y mesurau hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae sicrhau bod pobl sydd, neu sydd mewn perygl o fod yn cysgu ar y stryd, a'r rhai sydd mewn llety dros dro annigonol, yn cael y cymorth, yr adnoddau a'r polisïau sydd eu hangen i'w diogelu eu hunain. Mae'n bosibl na fydd gan yr unigolion a'r teuluoedd hyn fynediad at y cyfleusterau sy'n eu galluogi i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd ar hylendid neu ynysu. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw cefnogi'r unigolion hyn a'r rhai sy'n gweithio gyda hwy ac i'r perwyl hwn, gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am amrywiaeth o faterion sydd â'r nod o gefnogi'r grŵp agored i niwed hwn.

Yn gyntaf, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo'r rhai sy'n gweithio yn y sector lloches brys, hostel a chamddefnyddio sylweddau ar ddydd Iau 19 Mawrth. Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu ar y cyd â'r sector a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae fy nyled yn fawr iddynt.

Mae'n bwysig fy mod hefyd yn gallu cyhoeddi pecyn cymorth ariannol ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd y cyllid yn eu galluogi i sicrhau'r llety sydd ei angen i sicrhau bod y rhai sydd heb gartref yn gallu cael eu hamddiffyn, eu cefnogi, a'u hynysu os oes angen.

Bydd y cymorth ariannol, o hyd at £10m dros y misoedd nesaf, yn galluogi awdurdodau lleol i fynd ymhell y tu hwnt i rentu ystafell sylfaenol yn unig. Mae angen cymorth ar unigolion, mynediad at wasanaethau meddygol a gwasanaethau eraill. Mae arfer gorau yn golygu bod cynnig opsiynau i sicrhau y gall y rhai sy'n arddangos symptomau gael eu gwahanu oddi wrth y rhai nad ydynt ac nad yw unigolion yn cael eu gorfodi i adleoli neu i adael y safle yn ystod y dydd. Gallai hyn olygu prynu bloc o Wely a Brecwast neu ystafelloedd mewn gwestai, llety myfyrwyr sy’n wag a safleoedd eraill i weithredu ar y cyd â'r ddarpariaeth bresennol. Yn bwysig iawn, y byddwn yn disgwyl i'r ddarpariaeth hon gael ei rheoli a'i chefnogi gan y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector hwn er mwyn sicrhau cefnogaeth o ansawdd uchel, safonau hylendid a monitro priodol ar gyfer symptomau a salwch.

Mae'r lefel hon o gyllid yn adlewyrchu'r cymorth dwys sydd ei angen yn y sector a natur fregus y grŵp hwn.

Gwn fod awdurdodau lleol eisoes yn canolbwyntio ar y gwaith hwn, nid ydynt wedi aros i ni gynnig cyllid ond maent yn briodol wedi rhoi diogelwch unigolion sy'n agored i niwed yn gyntaf. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt a chydnabod eu hymdrechion i gefnogi'r grŵp hwn sy'n agored i niwed. Yn yr un modd hoffwn ddiolch i randdeiliaid ar draws y sector sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu diogelu a'u blaenoriaethu i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Byddaf yn disgwyl i bawb gydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig i ddarparu'r gwasanaethau, y gefnogaeth a'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y grŵp hwn a gwn na fyddaf yn siomedig.

Bydd yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn eithriadol o anodd inni i gyd ond i'r rhai nad oes ganddynt ddiogelwch o le i'w alw'n gartref ac i'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i'w cefnogi bydd hwn yn gyfnod anodd iawn.

Yr wyf wedi rhannu'r pryderon y mae'r rhanddeiliaid wedi'u mynegi am drafferthion y rhai nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus. Mae'r gyfraith yn ein hatal rhag cynnig mathau penodol o gymorth i'r unigolion hyn, gan gynnwys cymorth tai. Mae sicrhau mynediad at gyfleusterau glanweithdra da a darparu cyfleusterau i alluogi pobl i ynysu eu hunain yn fater iechyd cyhoeddus ac ni fydd yn cael ei atal yn yr un ffordd. Felly, rwyf wedi cynghori awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i helpu'r rheini sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth oherwydd pandemig COVID-19. Gwn y bydd rhanddeiliaid yn croesawu hyn ac er nad yw o bosibl yn darparu'r ateb hirdymor yr ydym i gyd yn ei ddymuno yr wyf yn falch y gallwn gyflawni ein hymrwymiad moesol a'u helpu i aros yn ddiogel ac yn iach yn ystod y pandemig hwn.

Yn olaf, byddwn yn sicrhau y gellir defnyddio'r cyllid presennol mewn modd hyblyg ac effeithiol i gefnogi gwaith pwysig ar lefel leol er mwyn cyflawni her COVID-19. Bydd swyddogion yn ysgrifennu heddiw at awdurdodau lleol yn nodi sut y gallant fanteisio i'r eithaf ar y Grant Cymorth Tai a'r Grant Plant a Chymunedau i ddiwallu anghenion lleol yn y ffordd orau posib. Gwnaf bopeth yn fy mhŵer i sicrhau bod rhwystrau artiffisial rhag gwneud y peth iawn yn cael eu dileu fel y gallwn, gyda'n gilydd, ymateb yn gyflym a hyblyg i'r sefyllfa ddigynsail hon.

Ni fyddwn yn colli golwg ar ein huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Mae'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, a gadeirir gan Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, yn dod tuag at ddiwedd ei waith. Mae’r ail adroddiad hwn, yn edrych yn fanwl ar y fframwaith o bolisïau, dulliau gweithredu a chynlluniau sydd eu hangen i gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn y tymor hwy.

Fel Llywodraeth, rydym yn parhau i fod wedi’i ymrwymo i gydweddu cyflymdra ac egni a ddangoswyd gan y grŵp yn ein hymateb, ond yn gwerthfawrogi bod ein hamserlen wreiddiol i ymateb yn afrealistig o ystyried y newid mewn amgylchiadau. Rydym yn cydnabod, fel y gwna'r grŵp yn eu hadroddiad, fod angen edrych yn ofalus ar yr argymhellion a gweithio ar draws y Llywodraeth a chydag ystod o bartneriaid allanol i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr mewn ymateb iddo a phan fydd amser yn caniatáu i ni wneud hynny.

Rhaid i mi annog amynedd o ran yr amserlen i hynny ddigwydd – rhaid i ni ganolbwyntio ar ymateb i heriau COVID-19 yn bennaf.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r grŵp, nid yn unig am eu gwaith diflino a'u hymroddiad wrth gynhyrchu adroddiad mor gynhwysfawr mewn cyfnod byr iawn, ond am y gwaith y maent hwy a'u sefydliadau yn ei wneud o ddydd i ddydd i gefnogi'r rheini sydd heb gartref.

Unwaith eto, rwy'n hynod ddiolchgar i'r grŵp am eu gwaith yn y maes hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Hoffwn hefyd nodi fy niolch arbennig i'r rhai sydd â phrofiad a'r rhai sy'n gweithio yn y sector am eu cyfraniad sy'n gwbl amhrisiadwy i'r adroddiad ac i'r gwaith hwn.