Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

O heddiw, bydd y GIG ledled y DU yn ysgrifennu at gleifion sydd wedi cael rhai mathau o lawdriniaeth agored ar y galon. Mae’n gwneud hyn i roi gwybod iddynt fod yna risg isel iawn y gallent fod wedi dal haint a achosir gan Mycobacterium chimaera.  Ni chysylltir ond â’r cleifion hynny sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon i amnewid neu atgyweirio falf y galon, gan gynnwys  triniaethau fel rhan o lawdriniaeth ar gyfer clefyd cynhenid y galon, a hynny ers mis Ionawr 2013. Mae’r risg o ddal yr haint hwn i gleifion sydd wedi cael mathau eraill o lawdriniaeth ar y galon yn isel iawn, ac ni  fydd yn cymryd camau i gysylltu â’r cleifion hyn.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a saith bwrdd iechyd Cymru yn anfon llythyrau i  2,771 o gleifion fel rhan o’r ymarfer hwn sy’n cael ei gynnal ar draws y DU.

Mae cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth o’r math hwn ers 2013 yn cael gwybod bod risg isel y gallent fod wedi dal yr haint hwn. Y risg yw oddeutu un achos ym mhob 5,000 o lawdriniaethau.

Bu 28 o achosion o’r haint yn y DU hyd yn hyn, gan gynnwys tri achos sydd wedi eu nodi fel achosion o Gymru, o gleifion sydd wedi cael llawdriniaeth yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae achosion wedi cael eu cofnodi’n rhyngwladol.

Mae’r haint yn gysylltiedig â math penodol o ddyfais wresogi-oeri a ddefnyddir i reoli tymheredd y gwaed mewn theatrau llawdriniaethau yn ystod llawdriniaeth.

Dim ond cleifion o Gymru sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, neu mewn canolfan triniaethau cardiaidd yn Lloegr fydd yn derbyn llythyr. Nid ysgrifennir at gleifion sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, gan nad yw’r ysbyty hwnnw’n defnyddio’r math penodol o uned wresogi-oeri sydd wedi ei chysylltu â’r haint hwn.

Bydd y llythyron hyn yn egluro na ddylai cleifion boeni, hyd yn oed os ydynt wedi cael llawdriniaeth i amnewid neu atgyweirio falf y galon, oni bai eu bod yn dangos symptomau’r haint.

Mae croeso i unrhyw un sydd wedi cael llythyr, ac sy’n parhau i boeni, ffonio llinell gymorth ddynodedig Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0800 035 2877, a fydd ar agor i dderbyn galwadau o 20 Mawrth hyd at 7 Ebrill.  Bydd gwasanaethau cardiaidd lleol ar gael i ymateb i unigolion os bydd angen.

Rhoddodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gyngor ar ddyfeisiau gwresogi-oeri sy’n achosi haint i ganolfannau llawdriniaethau ym mis Tachwedd 2015, ar ôl i’r risg y gallai cleifion ddal yr haint bacterium chimaera gael ei nodi. Ni nodwyd unrhyw achosion o’r haint mewn cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth yn y DU ers i’r canllawiau hyn gael eu cyhoeddi.